Covid-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:40 am ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 11:40, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Un mesur rwy'n ei groesawu dros yr wythnosau diwethaf mewn perthynas â'r rheoliadau COVID, yn amlwg, yw agor ysgolion yr wythnos nesaf. Rwy'n datgan buddiant fel aelod o awdurdod lleol, ac yn benodol, mae ein hawdurdod lleol wedi cyhoeddi canllawiau sy'n dweud na allant fanteisio ar y cyfle i agor ysgolion ar y bedwaredd wythnos, oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r trafodaethau cytundebol gyda'r undebau. A ydych yn credu bod hwnnw'n rheswm teg dros gau ysgolion ledled Cymru—oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi methu cwblhau trafodaethau cytundebol gyda'r undebau?