1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y pandemig COVID-19? OQ55329
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Caiff effeithiolrwydd ein holl gamau gweithredu ei asesu drwy lens iechyd y cyhoedd, gan gadw pobl a chymunedau yn ddiogel yng Nghymru yn ystod y pandemig. Mae'r cylch adolygu tair wythnos yn golygu bod popeth a wnawn yn cael ei asesu yng ngoleuni'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael.
Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Rwy'n deall na ellir cael atebion pendant hyd nes y bydd ymchwiliad wedi'i gynnal a hyd nes y bydd yr adroddiad wedi ei gynhyrchu, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cymryd amser. Ond ar hyn o bryd hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog lunio adroddiad interim, un a fyddai'n caniatáu i gamau unioni gael eu rhoi ar waith yn gyflym, yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd dros y misoedd diwethaf.
Wel, gadewch imi ddechrau, Lywydd, drwy gytuno â David Rowlands—mae'n bwysig iawn dysgu o'n profiadau, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud hynny bob dydd wrth inni feddwl am ddigwyddiadau'r wythnosau diwethaf a chynllunio ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Ond rwyf eisiau esbonio iddo—a gwn ei fod yn debygol o ddeall—fod Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn brysur iawn yn ymdrin â'r argyfwng sydd o'n blaenau, yn ymdrin ag achosion o'r coronafeirws yng ngogledd Cymru yr wythnos hon, yn edrych ar yr effaith ar y sector prosesu cig yn fwy cyffredinol, yn parhau i wneud yn siŵr ein bod yn darparu profion yn ein sector cartrefi gofal, ac yn sicrhau ein bod yn edrych ar ragor o gyfleoedd y gallwn eu cynnig i bobl yng Nghymru i adfer y rhyddid y maent wedi ei golli yn ystod yr argyfwng. Rydym yn defnyddio'r holl bobl sydd gennym—ac nid yw'r mwyafrif helaeth o gyflogeion Llywodraeth Cymru yn gweithio yn y ffordd arferol; maent yn dal i weithio o gartref—i barhau i ganolbwyntio ar yr heriau uniongyrchol sy'n ein hwynebu i baratoi ar gyfer yr hydref a'r gaeaf sydd i ddod. Bydd y foment yn dod, fel y dywedodd David Rowlands, pan ddaw cyfle i gamu'n ôl a gwneud adolygiad ffurfiol o'r pethau hyn. Yn anffurfiol, rydym yn dysgu drwy'r amser ac yn cymhwyso'r gwersi ond hyd nes y bydd y storm wedi tawelu, pan na fyddwn yn gorfod ymdrin yn ddyddiol ag effaith yr argyfwng ar fywydau pobl Cymru a chymunedau Cymru, nid yw'r foment honno wedi cyrraedd eto.
Diolch am yr ateb hwnnw, Brif Weinidog. Un mesur rwy'n ei groesawu dros yr wythnosau diwethaf mewn perthynas â'r rheoliadau COVID, yn amlwg, yw agor ysgolion yr wythnos nesaf. Rwy'n datgan buddiant fel aelod o awdurdod lleol, ac yn benodol, mae ein hawdurdod lleol wedi cyhoeddi canllawiau sy'n dweud na allant fanteisio ar y cyfle i agor ysgolion ar y bedwaredd wythnos, oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r trafodaethau cytundebol gyda'r undebau. A ydych yn credu bod hwnnw'n rheswm teg dros gau ysgolion ledled Cymru—oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi methu cwblhau trafodaethau cytundebol gyda'r undebau?
Wel, Lywydd, bydd fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn ateb cwestiwn amserol ar y mater hwn yn ddiweddarach y prynhawn yma. Gadewch i mi ailadrodd mai'r cyngor a ddarparodd Llywodraeth Cymru oedd fod yr achos dros ailddechrau addysg am bedair wythnos yng Nghymru yn gryf pe bai'n bosibl gwneud hynny. Rydym bob amser wedi cydnabod o'r dechrau fod problem gytundebol yn codi gyda'r bedwaredd wythnos, a dyna pam y gwnaethom gynnig, i athrawon a fyddai'n gweithio yn y bedwaredd wythnos, y byddai wythnos ychwanegol o wyliau'n cael ei hadfer iddynt yn ystod hanner tymor mis Hydref. Ond fel y dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth groesawu ein cynigion, eu lle hwy oedd cymryd y cynigion a'u rhoi ar waith o dan yr amgylchiadau gwahanol y mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn eu hwynebu. A dyna'r ffordd y mae'n rhaid i bethau fod, oherwydd hwy yw'r cyflogwyr, nid Llywodraeth Cymru.
Bydd yna blant yng Nghymru a fydd mewn lleoedd lle mae'n bosibl agor yr ysgol am bedair wythnos, ac rwy'n falch iawn fod yr awdurdodau addysg lleol sy'n gallu gwneud hynny wedi gallu cytuno ar hynny. Bydd awdurdodau lleol eraill yn wynebu heriau gwahanol, amgylchiadau gwahanol, ac yn dod i gasgliadau gwahanol. Mae hynny'n anochel yn y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud.