Covid-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:38 am ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 11:38, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Rwy'n deall na ellir cael atebion pendant hyd nes y bydd ymchwiliad wedi'i gynnal a hyd nes y bydd yr adroddiad wedi ei gynhyrchu, a bydd hynny, wrth gwrs, yn cymryd amser. Ond ar hyn o bryd hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog lunio adroddiad interim, un a fyddai'n caniatáu i gamau unioni gael eu rhoi ar waith yn gyflym, yn seiliedig ar y wybodaeth a gasglwyd dros y misoedd diwethaf.