Y Sector Twristiaeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:55 am ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:55, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am hynny, Lywydd. Ar 19 Mehefin, dywedais, ar yr amod bod ystyriaethau iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny, y byddai Llywodraeth Cymru yn codi'r gofyniad i 'aros yn lleol' ar 6 Gorffennaf. Ar yr un pryd, dywedais wrth berchnogion llety hunangynhwysol i baratoi i ailagor o 13 Gorffennaf ymlaen.