1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Lywodraeth Cymru yn ail-agor sector twristiaeth Cymru? OQ55318
Diolch i'r Aelod am hynny, Lywydd. Ar 19 Mehefin, dywedais, ar yr amod bod ystyriaethau iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny, y byddai Llywodraeth Cymru yn codi'r gofyniad i 'aros yn lleol' ar 6 Gorffennaf. Ar yr un pryd, dywedais wrth berchnogion llety hunangynhwysol i baratoi i ailagor o 13 Gorffennaf ymlaen.
Diolch, yn amlwg, am eich cyhoeddiad ddydd Gwener, er bod yn rhaid i mi ddweud nad yw'r cysyniad o gydsyniad cymunedol a'r defnydd o'r gair 'archebion' yn y naratif wedi helpu perchnogion parciau carafannau sefydlog, na pherchnogion carafannau eu hunain, i ddeall yr hyn y gallant ei wneud mewn gwirionedd.
Yr wythnos diwethaf, gofynnais i Weinidog yr economi pam fod cwmnïau twristiaeth nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW yn cael eu trin yn wahanol i gwmnïau neu unig fasnachwyr nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW mewn perthynas â chael mynediad at y gronfa cadernid economaidd. Microfusnesau yw'r rhain nad ydynt yn gallu manteisio ar y cymorth i'r hunangyflogedig, nid y busnesau mwy y cyfeiriodd atynt yn ei ateb. Mae rhai ohonynt yn ficrofusnesau twristiaeth cyffrous, newydd, gwyrdd neu ddarparwyr llety gwely a brecwast bach, ac yn anecdotaidd, mae cyfran eithaf uchel ohonynt yn cael eu rheoli gan fenywod. Felly, a fyddech cystal ag ailystyried hyn? Oherwydd, yn fy marn i, nid oes cyfiawnhad o gwbl dros drin dau fusnes yn wahanol ar sail cofrestriad yn Nhŷ'r Cwmnïau, gydag un fersiwn â hawl i gymorth a'r llall yn gorfod ymbil am arian o gronfa galedi.
Wel, Lywydd, yn gyntaf, gadewch imi egluro y bydd carafannau sefydlog, lle maent yn hunangynhwysol, yn gallu ailagor o 13 Gorffennaf ymlaen. Nid wyf yn gwbl sicr fy mod yn deall beth yw'r broblem gydag 'archebion', oherwydd mae pobl yn gallu cymryd archebion o 13 Gorffennaf ymlaen. Mae angen iddynt fod yn ymwybodol fod y dyddiad hwnnw'n dal i fod yn amodol ar ledaeniad y feirws ar y pryd. Mae hynny'n anochel, a dyna'r union ffordd y mae ei Llywodraeth hi yn y Deyrnas Unedig wedi bwrw ati o'r cychwyn. Maent yn gwneud cyhoeddiadau, ac maent yn ei gwneud yn glir fod yn rhaid cadarnhau'r pethau hynny yn nes at yr amser gan nad oes unrhyw un ohonom yn gwybod beth fydd y sefyllfa o ran y coronafeirws yn yr wythnosau i ddod.
Ar ei phwynt ynglŷn â chofrestru at ddibenion TAW, edrychwch, mae'n rhaid i mi esbonio: ein nod yw ceisio cael arian i bobl cyn gynted â phosibl, a gwneud hynny gyda chyn lleied o fiwrocratiaeth ag sy'n bosibl. Ond arian cyhoeddus yw hwn, ac mae gan y cyhoedd hawl i wybod bod lefel o uniondeb yn y ffordd y mae'n cael ei wario ar eu rhan. Rydym wedi defnyddio cofrestriad at ddibenion TAW fel llwybr byr drwy gyfres gyfan o wiriadau eraill y byddem wedi gorfod eu gwneud er mwyn sicrhau bod pobl sy'n cyflwyno ceisiadau i ni yn ddilys. Os oes ganddynt gofrestriad at ddibenion TAW, byddant eisoes wedi gorfod mynd drwy nifer o wiriadau, ac rydym yn dibynnu ar y rheini fel rhan o'n gofynion uniondeb wrth ddosbarthu arian cyhoeddus at ddibenion priodol.
Nawr, rwy'n deall bod hynny wedi golygu bod pobl nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW wedi methu elwa yn yr un ffordd, ac rydym wedi gweithio'n galed yn ail gam y gronfa cadernid economaidd i geisio mynd i'r afael â hynny. Ond mae yno i bwrpas priodol. Mae yno i bwrpas y byddai Suzy Davies, rwy'n credu, o dan amgylchiadau eraill, yn ei gydnabod yn dda iawn: os ydych yn gwario arian cyhoeddus, mae rhwymedigaeth arnoch i wneud yn siŵr eich bod wedi rhoi isafswm o leiaf o wiriadau yn y system i wneud yn siŵr na chamfanteisir ar y cynlluniau rydym yn eu rhoi ar waith yn gyflym iawn gan bobl sydd, wyddoch chi, yn meddwl y gall hon fod yn ffordd gyflym o gael arian gan Lywodraeth pan nad ydynt yn fusnes go iawn o gwbl.