Rhieni Maeth

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:59 am ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:59, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae gofalwyr maeth yn gwneud cyfraniad hollbwysig a chadarnhaol i fywydau plant sy'n derbyn gofal. Rwy'n hynod o ddiolchgar am eu hymroddiad parhaus yn ystod y cyfnod eithriadol hwn. Mae gofalwyr maeth ledled Cymru wedi wynebu adegau heriol iawn ac maent yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i rai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed.