Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 12:07 pm ar 24 Mehefin 2020.
Wel, Lywydd, rhaid bod y geiriau 'cyflym' a 'diogel' yn golygu rhywbeth yn hyn oll. Ni all fod yn gyflym ar draul diogel, a phe bai hynny'n digwydd, ni fyddai'n gyflym iawn o gwbl oherwydd byddem yn mynd ar ein pennau yn ôl i'r argyfwng rydym bellach yn dod allan ohono.
Ni ddylai neb gredu bod y cyhoeddiadau a wnaed ddoe gan Lywodraeth y DU yn golygu y bydd y diwydiant lletygarwch yn Lloegr yn ailddechrau fel roedd cyn i'r argyfwng ddechrau. Roeddwn yn meddwl bod Prif Weinidog y DU ei hun yn glir iawn am hynny ddoe. Bydd angen cefnogi'r diwydiant hwnnw ar lefel y DU, a dyna beth rydym yn disgwyl i Lywodraeth y DU ei wneud.