Cydraddoldeb i Fenywod yn y Gweithle

Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 12:21 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 12:21, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r rhai yr effeithir arnynt waethaf gan COVID-19 yng Nghymru. Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru, er enghraifft, wedi tynnu sylw at y ffordd y mae menywod wedi cael eu heffeithio'n anghymesur fel gofalwyr, fel mamau ac yn y gweithle. Mae cydraddoldeb yn ganolog i fframwaith adfer y Prif Weinidog yn sgil y pandemig.