Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 12:19 pm ar 24 Mehefin 2020.
Weinidog, roeddwn yn gwrando ar eich ateb i'r Aelod dros Flaenau Gwent, a'r hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod y lefel hon o gefnogaeth yn cael ei deall, ei bod yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad. Yn aml iawn, y rhai yr effeithir arnynt yn fawr gan drais domestig yw'r plant mewn cartrefi lle mae trais yn y cartref wedi digwydd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi fel Aelod ac i fy etholwyr fod y cymorth rydych yn ei roi ar waith yn cael ei dargedu i gefnogi'r plant, a fydd yn aml iawn yn cael eu dal yn y canol mewn achosion o'r drosedd erchyll hon yn erbyn unigolion?