Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 12:11 pm ar 24 Mehefin 2020.
Lywydd, a gaf fi nodi fy mod yn swyddog yn Urdd Sant Ioan? Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod St John Cymru wedi bod yn darparu gwasanaethau hanfodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth cyntaf ers canrif. Mae'n olygfa gyfarwydd iawn yn ein digwyddiadau cenedlaethol, ac fel llawer o sefydliadau gwirfoddol mawr eraill, mae wedi dangos cryfder rhyfeddol dros y blynyddoedd hynny, ond erbyn hyn mae wedi colli un o'i phrif bileri incwm, ac mae model busnes dan fygythiad o ganlyniad—yn achos yr urdd, ei incwm hyfforddiant, sydd fwy neu lai wedi diflannu dros nos o'i lefel hynod lwyddiannus. A ydych yn cytuno â mi ei bod hi'n debygol y bydd angen parhau'r cymorth sylweddol a derbyniol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yma os ydym am weld ein prif ddarparwyr sector gwirfoddol o gryfder a lles i bobl Cymru yn rhan o'r adferiad hwnnw ac yn parhau mor weithredol ag y bo modd yn y cyfnod adfer?