Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 12:12 pm ar 24 Mehefin 2020.
Wel, hoffwn ddiolch i David Melding am y cwestiwn hwnnw, a hefyd mae'n rhoi cyfle i mi ddiolch i Ambiwlans Sant Ioan a'u llongyfarch—Urdd Sant Ioan, rydych yn swyddog ynddi. Mae Ambiwlans Sant Ioan, wrth gwrs, yn darparu cefnogaeth wych gan wirfoddolwyr, a hefyd y gwaith gyda'u pobl ifanc. Rydych chi wedi datgelu heddiw, wrth gwrs, y pwysau ar Ambiwlans Sant Ioan Cymru o ran eu sefyllfa bresennol, ond gallaf ddweud wrthych fod hyn yn rhan o'n trafodaethau gyda chyngor partneriaeth y trydydd sector ynglŷn â sut y gallwn gefnogi'r trydydd sector yng Nghymru i gefnu ar effaith uniongyrchol y pandemig coronafeirws a dechrau ymadfer. Mae ganddynt ran mor bwysig i'w chwarae, a byddwn yn ceisio dod o hyd i'r adnoddau i'w cefnogi ar y daith honno.