Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:41 pm ar 24 Mehefin 2020.
Prynhawn da, Weinidog. Mae croeso mawr i’r gronfa cymorth i ffermwyr godro yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, ond maent wedi gofyn nifer o gwestiynau i mi yn ei chylch. Un ohonynt oedd: pam y gwnaethoch benderfynu ei gyfrifo ar bris yr uned laeth yn hytrach na 25 y cant o’r golled incwm gyffredinol? Oherwydd nododd rhai ohonynt, er bod y pris y cânt am bob litr o laeth yr un fath, neu ddim yn cyrraedd y trothwy o 25 y cant yn llai o drwch blewyn, maent wedi colli llawer iawn o laeth yn ôl cyfaint. Mae hynny’n fy arwain at yr ail bwynt, sef: tybed a allech roi amlinelliad inni o'r hyn y gallech ei wneud, o bosibl, i helpu i gynyddu'r nifer o bobl sy'n prynu llaeth a chynhyrchion llaeth, nid yn unig ymhlith y cyhoedd, ond drwy helpu ffermwyr i arallgyfeirio mwy, oherwydd, fel y gwyddom, mae'r diwydiant lletygarwch wedi chwalu, a dyna lle mae llawer o fy ffermwyr wedi colli eu marchnad.