Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:43 pm ar 24 Mehefin 2020.
Gallaf, mae’n ddrwg gennyf—ymddiheuriadau. Ymddiheuriadau i bawb.
Roeddwn eisiau dweud, er fy mod yn siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i'r arian i gynyddu cynhyrchiant garddwriaeth yn ystod y tymor tyfu pwysig hwn, o ystyried bod diogelwch y cyflenwad bwyd mewn perthynas â ffrwythau a llysiau yng Nghymru yn beryglus o isel ar 1 y cant, ac nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran mewnforion o ganlyniad i’r coronafeirws, serch hynny, rwy'n croesawu'r cynllun i roi'r iawndal i ffermwyr godro bach sydd wedi colli 25 y cant neu fwy o'u hincwm yn sgil cau caffis a bwytai.
Tybed a allech ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed o ran cynyddu capasiti i droi llaeth dros ben yn gaws a menyn, ac i ddefnyddio cynllun ymyrraeth gyhoeddus yr UE i storio llaeth, menyn a chaws er mwyn atal llaeth rhag cael ei dywallt i lawr y draen yn y dyfodol. Hefyd, tybed a allwch ddweud wrthym beth yw'r cyfanswm a neilltuwyd ar gyfer y cynllun i achub ffermwyr llaeth.