Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:35 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch. Ysgrifennodd swyddogion at bob sw ac atyniad anifeiliaid yng Nghymru. I'r rhai a ymatebodd, rydym wedi bod yn cynnig cyngor a chymorth drwy gydol y pandemig COVID-19. Mae'r mwyafrif o'r rheini a fu mewn cysylltiad â ni wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru a/neu sefydliadau eraill. Mae swyddogion yn parhau i fonitro'r sefyllfa.