Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:15 pm ar 24 Mehefin 2020.
Ar ôl y llifogydd ym mis Chwefror, cafodd pobl yn y Rhondda £500 gan y cyngor lleol, £500 gan Lywodraeth Cymru, a mwy os nad oedd ganddynt yswiriant, mwy os oeddent yn fusnes, a mwy fyth drwy ymdrechion lleol i godi arian. Yr hyn na chawsant oedd amddiffynfeydd i atal hyn rhag digwydd eto. Felly, a wnewch chi ymrwymo i ddarparu llifddorau i bob cartref sydd eu hangen? Ac a wnewch chi amlinellu pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i bobl a ddioddefodd lifogydd y tro hwn? Ac yn olaf, Weinidog, a ydych yn cefnogi ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad arbenigwyr, i'r hyn a ddigwyddodd, ac i roi argymhellion i ni ar gyfer mesurau lliniaru yn y dyfodol?