Adfer ac Atal Llifogydd

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:16 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:16, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Roedd tri chwestiwn yno. Unwaith eto, mae angen inni edrych ar beth yn union yw'r asesiad, beth sydd ei angen yn ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd. Felly, llifddorau ar gyfer pob eiddo—nid yw hynny wedi croesi fy nesg eto, ond pe bai hynny'n codi, mae'n rhywbeth y gallem ei asesu.

Fe gyfeirioch chi at y £500 gan Lywodraeth Cymru a roddwyd i breswylwyr yn ôl ym mis Chwefror, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym yn edrych arno ar hyn o bryd, yn dilyn y llifogydd yr wythnos diwethaf.

Credaf ei bod yn bwysig inni adael i'r holl ymchwiliadau fynd rhagddynt. Gellir eu cynnal yn llawer cyflymach nag ymholiad annibynnol, a dyna rwy'n aros amdano.