Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:17 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae topograffi cymoedd Morgannwg a Gwent bob amser wedi golygu eu bod yn agored iawn i lifogydd, fflachlifoedd yn aml, ac mae'r system gynllunio, felly, yn bwysig tu hwnt wrth adeiladu gallu i wrthsefyll llifogydd. Nid yw rhai o'r dulliau traddodiadol a ddefnyddir mewn rhannau eraill o'r wlad, fel byndio, yn ymarferol. Mae'n rhaid i ni feddwl o ddifrif ynglŷn â sut rydym yn rheoli'r cyrsiau dŵr cyflym hyn. Hyd yma, rydym yn clywed yr un hen straeon unwaith eto am gwlfertau’n blocio a gweddillion mewn cyrsiau afonydd. Mae’n rhaid edrych ar hyn yn gyson a'i drin a'i gynnal.