Adfer ac Atal Llifogydd

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:18 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:18, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae'n debyg y dylwn fod wedi dweud ar ryw bwynt, mewn perthynas â llifogydd yr wythnos diwethaf, nad oedd yr adroddiadau cychwynnol a gefais yn nodi bod cwlfertau wedi'u blocio; trymder y glaw yn unig a nodwyd. Roedd yn lawiad enfawr mewn cyfnod byr iawn—21mm o fewn tua 20 munud, rwy’n credu. Felly, credaf fod yr adroddiadau cychwynnol—. Ond yn amlwg, mae angen inni weld a oedd cwlfertau wedi'u blocio ar yr achlysur hwn hefyd.

Credaf fod angen inni edrych ar gynlluniau rheoli llifogydd naturiol, gan y gallai hynny helpu i liniaru dŵr ffo cyflym mewn ardaloedd trefol. Felly, unwaith eto, rydym yn darparu cyllid 100 y cant ar gyfer y gwaith paratoi hwnnw. Ond mae hwn yn faes y mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio'n fanwl iawn arno, ac mae cryn dipyn o arian wedi’i ddarparu ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd dros dymor y Llywodraeth hon.