Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 12:38 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Lywydd. Gwn y bu llawer o sŵn ynglŷn â darpariaeth benodol Llywodraeth y DU ar gyfer sŵau ac acwaria, a oedd yn caniatáu i bob busnes gael mynediad at gyllid grant o hyd at £100,000. Ysgrifennais at Ken Skates rai wythnosau yn ôl, ynglŷn â Sw Mynydd Cymru yn benodol, a rhoddodd sicrwydd nad oedd sŵau Cymru ar eu colled. Wrth i’r cyfyngiadau symud barhau i gael eu llacio, gobeithio, a wnewch chi ymuno â mi i ofyn i'r cyhoedd yng Nghymru fynd allan i’r awyr iach, ac i ymweld â'n sŵau a'n hatyniadau lleol, fel y gallwn atgoffa ein hunain o'u cyfraniad at addysg a chadwraeth, yn ogystal â gweithgareddau hamdden? Diolch.