Gwaith Adfer o Ran Llifogydd

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:00 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 1:00, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn gyntaf, a gaf fi ymuno ag eraill drwy gydymdeimlo â’r bobl yr effeithiwyd arnynt eto gan lifogydd yn y dyddiau diwethaf? Mewn rhannau o fy etholaeth, nid llifogydd o afonydd yw’r unig broblem, ond mae'n ymwneud hefyd â gallu systemau draenio a chwlfertau lleol, sy’n dyddio o oes Fictoria i raddau helaeth, i ymdopi â'r tywydd eithafol sydd bellach yn ymddangos yn eithaf cyffredin. Fodd bynnag, rwy’n ategu'r pwynt a wnaethoch, ac rwy’n falch iawn o weld peth o'r dystiolaeth yn fy etholaeth o'r gwaith adfer ar ôl difrod y stormydd yn gynharach yn y flwyddyn. Ond ymddengys i mi fod gwir angen ôl-addasu rhai o'r hen systemau hyn, a buddsoddi o'r newydd mewn seilwaith draenio cynaliadwy. Felly, pa le pellach sydd yna i weithredu lleol wedi'i dargedu i ategu'r cynlluniau mwy sy'n cael eu hariannu ar hyn o bryd?