Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 24 Mehefin 2020.
Llyr, rwy'n credu fy mod wedi deall byrdwn y cwestiwn, ond nid oedd fy nghyfieithiad yn gweithio, felly rwyf am wneud fy ngorau, ond rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio erbyn eich cwestiwn atodol.
Felly, diolch am y cwestiwn. Ein blaenoriaeth yw cael awdurdodau cynllunio lleol i weithio eto, fel y gall busnesau sicrhau bod unrhyw gynigion datblygu sydd angen caniatâd cynllunio yn gallu symud ymlaen drwy'r system gynllunio. I gynorthwyo gyda hyn, gwnaed rheoliadau ar 19 Mai i alluogi datblygwyr i fwrw ymlaen â cheisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr.