4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddefnyddio rheoliadau cynllunio er mwyn cynorthwyo busnesau i ddod allan o'r cyfnod cloi presennol? OQ55319
Llyr, rwy'n credu fy mod wedi deall byrdwn y cwestiwn, ond nid oedd fy nghyfieithiad yn gweithio, felly rwyf am wneud fy ngorau, ond rwy'n gobeithio y bydd yn gweithio erbyn eich cwestiwn atodol.
Felly, diolch am y cwestiwn. Ein blaenoriaeth yw cael awdurdodau cynllunio lleol i weithio eto, fel y gall busnesau sicrhau bod unrhyw gynigion datblygu sydd angen caniatâd cynllunio yn gallu symud ymlaen drwy'r system gynllunio. I gynorthwyo gyda hyn, gwnaed rheoliadau ar 19 Mai i alluogi datblygwyr i fwrw ymlaen â cheisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr.
Wel, diolch i chi am eich ateb. Dwi'n gobeithio bod yr offer cyfieithu'n gweithio erbyn hyn. Dŷn ni i gyd yn ymwybodol—. Na, dydy e ddim.
Mae'n ddrwg gennyf, Llyr. Nid wyf yn cael unrhyw gyfieithiad.
Ie, mae'n ddrwg gennyf.
Rydym yn ymwybodol iawn fod gofynion cadw pellter cymdeithasol, boed yn 2m neu'n 1m, yn achosi cryn dipyn o broblemau i lawer o fusnesau sydd naill ai wedi ailagor neu, wrth gwrs, yn gobeithio ailagor yn fuan. Nawr, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gwybod am enghreifftiau lle gellid gwneud defnydd o balmentydd llydan y tu allan i gaffis a siopau coffi. Ceir mannau parcio y gellid eu defnyddio i flaenoriaethu anghenion y busnesau hynny dros draffig, a cheir sgwariau trefi a phentrefi y gallai caffis a siopau coffi wneud defnydd ohonynt yn ystod y dydd ac o bosibl wedyn, gallai bwytai, a thafarndai pan ddaw'r amser, wneud defnydd ohonynt gyda'r nos. Felly, hoffwn ddeall, mewn gwirionedd, beth rydych chi'n ei wneud o ran gweithio gydag awdurdodau lleol nid yn unig i sicrhau eu bod yn gallu bod mor greadigol ac mor hyblyg â phosibl wrth ganiatáu peth o hyn i ddigwydd, ond i'w hannog, mewn gwirionedd, yn rhagweithiol, i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd.
Cwestiwn da iawn. Rydym wedi bod yn gwrando ar fusnesau, a chyhoeddais ganllawiau ganol mis Mawrth mewn ymateb i bryderon a fynegwyd bryd hynny gan y sector bwyd a diod a oedd yn gofyn am hyblygrwydd o ran amseroedd darparu ac oriau agor. Pan fu'n rhaid cau bwytai, tafarndai a chaffis, roeddem yn ffodus fod rheoliadau cynllunio yng Nghymru eisoes yn caniatáu i fusnesau weithredu fel siopau cludfwyd os oeddent yn dymuno, felly nid oedd yn rhaid inni fynd ati'n rhagweithiol i wneud hynny; roedd hynny eisoes yn cael ei ganiatáu.
Mae rhan o'r hyn rydych newydd ei drafod yn ymwneud â rheoliadau trwyddedu yn hytrach na rheoliadau cynllunio, ond rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r awdurdodau lleol—mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, wedi bod yn gweithio'n galed iawn mewn perthynas â chanol trefi, yn arbennig—i ddeall yr hyn sydd ei angen, ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol. Rydym newydd gyhoeddi canllawiau ar gyfer mannau cyhoeddus mwy diogel, sy'n amlinellu sut y gall tafarndai, bwytai, caffis a mannau eraill, ddefnyddio mannau awyr agored mewn ffordd dda, tra'n sicrhau bod yr holl ffactorau anabledd a chydraddoldeb yn cael eu hystyried, oherwydd, yn amlwg, os oes gennych nam ar eich golwg neu os ydych yn dibynnu'n helaeth ar arwyddion eraill, mae'n bwysig gwneud yn siŵr nad yw'n cael ei rwystro a bod gan bobl lwybrau clir ac ati.
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant, ac amrywiol gynrychiolwyr y diwydiant, a chydag awdurdodau lleol i wneud y gorau o hynny, ac rydym yn edrych i weld pa gyfuniad o reoliadau cenedlaethol a lleol y mae angen i ni eu rhoi ar waith i alluogi hynny, ar sail dros dro ac ar gyfer ffactorau'n ymwneud â gwyrddu ar sail fwy parhaol yn ein trefi a'n dinasoedd wrth i ni gefnu ar yr argyfwng hwn gyda'n gilydd.
Hoffwn roi gwybod i bawb fod y cysylltiad cyfieithu wedi methu, felly rydym yn archwilio'r trefniadau wrth gefn. Felly, nid wyf yn credu bod gennym gyfieithiad am y tro. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ychwanegu at yr hyn roedd Llyr yn ei ddweud? Mae'n wych gweld bod rhai o'r siopau ym Mhen-coed, Pontycymer a Maesteg wedi ailagor yn ofalus dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, a bod pobl yn dod allan yn ofalus i wario arian ar ein strydoedd mawr lleol. Ond mae'r palmentydd gorlawn yn broblem wirioneddol, ac rwy'n meddwl pa drafodaethau rydych chi a'r Dirprwy Weinidog yn eu cael, nid yn unig gydag awdurdodau lleol, ond gyda chynghorau tref a chymuned—mawr a bach—oherwydd yn aml iawn hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall yr amgylchedd lleol. Nawr, gallent fwydo i mewn i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan awdurdodau lleol i ailadeiladu mewn ffordd wahanol tuag at y normal newydd yn ein canolfannau a rhoi busnesau hyfyw—a lleihau'r risg o ledaenu'r feirws hefyd.
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Huw. Rwyf fi a Hannah wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant, gydag awdurdodau lleol a chynghorau tref a chymuned a chyda rhanddeiliaid eraill yn y diwydiant bwyd a diod, ac mewn perthynas ag adfywio, i ddod â nifer o elfennau at ei gilydd i sicrhau 'normal' gwell pan ddown allan o'r pandemig yn y pen draw. Rydym yn ceisio cyflawni nifer o bethau. Mae'n amlwg ein bod eisiau i'n diwydiant lletygarwch allu gweithredu mewn ffordd ddiogel sy'n caniatáu iddynt gyflawni eu busnes, a ffordd sy'n caniatáu i bawb ohonom mewn gwirionedd fynd allan a gweld ein ffrindiau a'n teuluoedd mewn lleoliad hwyliog tra'n sicrhau ein bod i gyd yn aros yn ddiogel.
Ond roedd rhai agweddau ar adfywio canol ein trefi a'n trefi marchnad bach a phentrefi bach yn anodd eisoes, ac mae'n ymwneud â dod â'r pethau hynny at ei gilydd. Felly, mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn arwain ar hynny, ond rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar draws nifer o sectorau a chyda nifer o randdeiliaid i wneud hynny. Ar hyn o bryd, mae'n cymryd rhan mewn adolygiad cyflym o hynny, o bopeth sy'n dod â hynny at ei gilydd. Rwy'n siŵr y bydd yn fwy na pharod i ateb cwestiynau ar hynny rywbryd eto. Mae wedi bod yn gweithio'n galed iawn arno.
Prynhawn da, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gofyn i lawer o ddatblygiadau sydd wedi cael caniatâd cynllunio ddechrau o fewn amserlen benodol oherwydd amodau penodol y caniatâd neu drwy amodau cyffredinol. Fel arfer mae ganddynt nifer o flynyddoedd cyn bod yn rhaid iddynt ddechrau. Ac fe fyddwch yn gwybod os na fydd y gwaith yn dechrau, y bydd y caniatâd yn darfod. Mae gwneud cais am ganiatâd cynllunio o'r newydd yn gostus ac yn cymryd amser. Un opsiwn i ddatrys y broblem hon fyddai i Lywodraeth Cymru gyflwyno hawl datblygu a ganiateir newydd er mwyn gallu cario caniatâd cynllunio ymlaen am gyfnod penodol. Credaf ei fod o fewn y cymhwysedd, ac roeddwn yn meddwl tybed a wnewch chi adolygu'r mater hwn, oherwydd mae'n arbennig o bwysig cadw datblygiadau tai ar y trywydd cywir. Nid wyf yn credu bod y mater hwn wedi ei gynnwys yn eich llythyr dyddiedig 27 Mawrth at awdurdodau lleol, nac yn y canllawiau i awdurdodau cynllunio—nid yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, beth bynnag.
Na, nid wyf yn credu hynny, ond rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol i ddeall sut y gallai hynny edrych, a faint o gynlluniau a allai gael eu cynnwys yn hynny. Nid ydym eisiau hawl datblygu a ganiateir cyffredinol ar draws Cymru ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad, ond yn hytrach rydym eisiau gweithio gydag awdurdodau lleol a'u cynlluniau datblygu lleol ar safleoedd tai a nodwyd i weld pa hawliau datblygu sydd angen eu rhoi ar waith, naill ai er mwyn cadw caniatâd cynllunio neu i'w gyflwyno'n gyflym, oherwydd fel y gwyddoch, rydym yn awyddus iawn i gael adferiad wedi'i arwain gan dai gwyrdd yn hynny o beth.
Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn gyda hwy, ond ar sail materion sy'n ymwneud â safleoedd penodol yn hytrach nag yn gyffredinol ledled Cymru, oherwydd mae'n gwbl amhosibl rheoli hynny. Felly, oes, mae gennym nifer o gronfeydd a safleoedd rydym yn edrych arnynt, a phan fyddwn wedi cwblhau yr hyn rydym yn ei wneud, byddwn yn barod i gyhoeddi datganiad ac yna byddaf yn hapus iawn i rannu. Ond mewn gwirionedd, Angela, os oes gennych unrhyw safleoedd penodol dan sylw, mae gennym ddiddordeb mawr mewn edrych arnynt, felly os ydych am roi gwybod i mi beth ydynt, byddwn yn hapus iawn i rannu hynny gyda chi.