Rheoliadau Cynllunio

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:07, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym yn ymwybodol iawn fod gofynion cadw pellter cymdeithasol, boed yn 2m neu'n 1m, yn achosi cryn dipyn o broblemau i lawer o fusnesau sydd naill ai wedi ailagor neu, wrth gwrs, yn gobeithio ailagor yn fuan. Nawr, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gwybod am enghreifftiau lle gellid gwneud defnydd o balmentydd llydan y tu allan i gaffis a siopau coffi. Ceir mannau parcio y gellid eu defnyddio i flaenoriaethu anghenion y busnesau hynny dros draffig, a cheir sgwariau trefi a phentrefi y gallai caffis a siopau coffi wneud defnydd ohonynt yn ystod y dydd ac o bosibl wedyn, gallai bwytai, a thafarndai pan ddaw'r amser, wneud defnydd ohonynt gyda'r nos. Felly, hoffwn ddeall, mewn gwirionedd, beth rydych chi'n ei wneud o ran gweithio gydag awdurdodau lleol nid yn unig i sicrhau eu bod yn gallu bod mor greadigol ac mor hyblyg â phosibl wrth ganiatáu peth o hyn i ddigwydd, ond i'w hannog, mewn gwirionedd, yn rhagweithiol, i wneud yn siŵr ei fod yn digwydd.