Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 24 Mehefin 2020.
Iawn, fe symudaf yn agosach at y—. Felly, Weinidog, wrth inni godi'r cyfyngiadau symud, mae perygl o weld achosion lleol yn dod i'r amlwg, fel sydd wedi digwydd ar Ynys Môn; efallai nad oes opsiwn heblaw gosod cyfyngiadau symud lleol. Rwyf am ofyn pa gymorth penodol rydych chi'n ei roi i Ynys Môn i'w helpu gyda'r sefyllfa bresennol y maent yn ei hwynebu ac yn fwy cyffredinol, a fydd polisi o ddarparu cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n wynebu achosion tebyg yn y dyfodol. Os oes angen gweithredu cyfyngiadau symud lleol, gallai hynny olygu bod angen cynlluniau ffyrlo lleol a chymorth ychwanegol.