4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch. Trown yn awr at gwestiynau'r llefarwyr, a Mark Isherwood yw'r cyntaf y prynhawn yma.
Diolch. Ddydd Sul diwethaf, derbyniodd pob Aelod o'r Senedd e-bost gan un o drigolion Sir y Fflint yr oedd ei gŵyn yn erbyn cyngor Sir y Fflint ynghylch datblygiad yn Sir y Fflint wedi cael ei chadarnhau gan ombwdsmon Cymru, ond dywedodd fod angen cynnal ymchwiliad i'r broses o gymeradwyo'r datblygiad hwn, a bod yn rhaid dwyn y swyddogion dan sylw i gyfrif. Rwyf wedi derbyn nifer o gwynion tebyg ynghylch datblygiadau a gymeradwywyd yn Sir y Fflint.
Sut rydych chi'n ymateb felly i breswylydd arall yn Sir y Fflint a ddywedodd fod adrannau cynllunio neuadd y sir yn aml yn ei chael hi'n anodd amddiffyn y broses o bennu ffiniau blaenoriaethau rhwystr glas sy'n bodoli eisoes wrth wynebu galwadau gan hap-ddatblygwyr ystadau mawr—[Anghlywadwy.]—llu yn rhagor eto o dai preifat hawdd eu hadeiladu yn ein hardaloedd gwledig ac ar ein caeau gwerthfawr? Wrth inni golli mwy a mwy o'n tir rhwystr glas cyfyngedig, pa fesurau y gall y Gweinidog eu rhoi ar waith a fydd yn rhoi mandad brys i sicrhau bod polisi cynllunio Cymru yn cadarnhau y dylai'r holl fannau agored a'r holl rwystrau glas diffiniedig sydd eisoes yn bodoli gael eu gwarchod yn gadarn?
Diolch, Mark. Nid wyf am wneud sylw ar y mater penodol, oherwydd rydym yn gwybod ei fod yn destun cyfres o gwynion, ac yn y blaen. Felly, nid wyf am wneud sylw ar hynny am resymau amlwg. Ond o ran y sylwadau mwy cyffredinol ynghylch diogelu mannau gwyrdd ac yn y blaen, rydym yn gweithio gydag awdurdodau ledled Cymru, i roi eu hadrannau cynllunio ar waith a sicrhau ein bod yn cynnal archwiliad priodol o sgiliau ledled Cymru. Mae llawer o awdurdodau lleol wedi cael eu gorfodi oherwydd cyni i gyfyngu ar yr hyn a elwir, mewn dyfynodau, yn wasanaethau dianghenraid, er y gwelir eu bod yn hanfodol yn y pen draw wrth gwrs. Felly rydym yn awyddus iawn i gryfhau hynny ar sail ranbarthol a lleol, ac i sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn gallu helpu i ailsgilio, neu helpu i ddatganoli cyfrifoldeb dros brinder sgiliau i'r rhanbarthau yn y meysydd hynny.
Fe fyddwch yn gwybod bod y fersiwn ddiweddaraf o 'Polisi Cynllunio Cymru' yn rhoi pwyslais canolog ar leoedd a chymunedau, ac mae'r seilwaith gwyrdd rydych yn sôn amdano yn ganolog i hwnnw—nid y llain las yn unig, ond seilwaith gwyrdd yn ein datblygiadau cynllunio a'n trefi drwyddi draw. Felly, rwy'n hapus iawn ein bod wedi gwneud hynny ar y lefel honno. Rydym ar fin cyhoeddi'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Mae rywfaint ar ei hôl hi oherwydd y pandemig, felly rwy'n gobeithio y caiff hwnnw ei gyhoeddi'n fuan iawn, ac yna, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar lunio cynlluniau strategol rhanbarthol i wneud yn union yr hyn a ddywedoch chi, sef diogelu—sicrhau bod gennym y cynlluniau cywir yn y lle cywir, y datblygiad cywir yn y lle cywir, a diogelu'r ardaloedd gwledig lle mae'r cynllun datblygu lleol a'r cynllun rhanbarthol yn nodi hynny.
Diolch. Ym mis Tachwedd 2017 ac eto ym mis Mai 2019, fe ysgrifennoch chi at gyngor Sir y Fflint yn dweud eich bod yn siomedig dros ben fod yr awdurdod hwnnw wedi cyflwyno cais pellach i ymestyn yr amser a gymer i baratoi ei gynllun datblygu lleol, yn enwedig yng ngoleuni sicrwydd blaenorol, a bod hyn yn arbennig o berthnasol gan fod yr awdurdod hwnnw'n parhau i ddioddef pwysau hapgeisiadau cynllunio yn y caeau oherwydd na fabwysiadwyd cynllun datblygu. A pho hwyaf y byddai'r sefyllfa'n parhau, byddai hynny'n achosi mwy o niwed i gymunedau lleol ac i enw da'r system gynllunio. Dyna ddiwedd eich dyfyniad.
Cyflwynodd Deddf Coronafeirws 2020 hyblygrwydd i gynghorau gyflawni eu trefniadau o ran democratiaeth a llywodraethu yn wahanol ac yn gymesur, o ystyried yr heriau a oedd yn eu hwynebu, ond fel y gwyddoch, nid lleihau llais cymunedau na gwanhau atebolrwydd a chynrychiolaeth ddemocrataidd oedd y nod. Sut, felly, y gwnewch chi sicrhau nad yw cynghorau heb gynlluniau datblygu lleol yn mynd ar drywydd defnydd heriol o'r gweithdrefnau argyfwng i sicrhau cymeradwyaeth?
Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda chynghorau lleol ledled Cymru, gyda chynlluniau datblygu lleol a hebddynt, yn enwedig y rhai sydd yng nghamau ffurfiannol y cynllun datblygu lleol, i sicrhau eu bod yn gyntaf oll yn gallu gweithredu o gwbl—ac mae hynny'n wir am bob awdurdod cynllunio ledled Cymru. Mae cyfres o reoliadau wedi'u sefydlu er mwyn caniatáu i bwyllgorau cynllunio allu cael cyfarfodydd rhithwir, ymweliadau rhithwir â safleoedd, a'r holl bethau hynny, gweithdrefnau hysbysu gwahanol, ac yn y blaen, ac ar lefel cynlluniau datblygu lleol, i ddeall ganddynt pa effaith roedd y pandemig yn ei gael ar yr amserlen ac i roi cynlluniau gwell ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd yn gynt. Mae'r gwaith hwnnw ar y gweill ac wrth i ni lacio'r cyfyngiadau symud, rydym yn gweithio gyda phob awdurdod lleol i wneud yn siŵr ein bod yn cael cynllun wedi ei adolygu a chyda'r adnoddau priodol ar gyfer cael eu cynlluniau datblygu lleol ar waith. A'r rheswm am hynny, Mark, yw'r y gwnaethoch chi dynnu sylw ato: fod awdurdodau nad oes ganddynt gynllun ar waith yn tueddu i weld hapddatblygiadau y maent yn ei chael yn anos eu hosgoi, oherwydd nad oes ganddynt gynllun wedi'i fabwysiadu. Felly rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda hwy i wneud hynny. Nid Sir y Fflint yw'r unig awdurdod yn y sefyllfa honno, felly rydym yn gweithio gyda nifer o awdurdodau ledled Cymru i gyrraedd y pwynt hwnnw.
Ac ar yr un pryd, rydym yn eu hannog i gydweithio â phartneriaid ar draws gogledd Cymru neu'r rhanbarth penodol y mae'r awdurdod yn digwydd bod ynddo, i roi cynllun strategol ar waith, oherwydd lle bydd cynllun strategol ar waith, byddwn yn gweithio gyda hwy ar yr hyn rydym yn dechrau ei alw'n weithdrefnau 'CDLl ysgafn', fel nad ydynt yn cael eu dyblygu o'r cynllun strategol. Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd Sir y Fflint, ynghyd â nifer o awdurdodau eraill, yn ymuno â ni ar y daith honno.
Wel, daeth rheoliadau newydd i rym yng Nghymru y mis diwethaf mewn perthynas â'r ymgynghoriad cyn ymgeisio ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yn ystod y pandemig hwn. Er bod y rhain yn honni eu bod yn cyflwyno mesurau diogelwch i warantu bod y broses ddiwygiedig mor gynhwysol â phosibl, mynegwyd pryderon wrthyf y byddant yn caniatáu i ymgeiswyr gynnal ymgynghoriad rhithwir, ac o ystyried effaith bosibl datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol ar gymunedau a'r angen i'r cyhoedd ddeall agweddau technegol ar y rhain, nad yw ymgynghoriadau rhithwir yn ymgynghoriadau ystyrlon a'u bod yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Sut rydych yn ymateb felly i bryderon fod ymgeiswyr y mae eu hymgynghoriadau ffisegol wedi cael eu gohirio yn y gorffennol yn awr yn cyhoeddi ymgynghoriadau rhithwir o bell, gan osgoi'r angen am ryngweithio wyneb yn wyneb, a bod hyn yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ac anabl nad oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd, neu nad ydynt yn gymwys neu'n hyderus ar y ffôn o bosibl?
Yn amlwg, mae'r rhain yn bethau y mae'n rhaid eu pwyso a'u mesur, ac felly roeddem yn ymwybodol iawn fod nifer o bethau nad oeddem yn gallu eu datblygu a oedd yn rhan annatod o ddatblygu seilwaith mewn ardaloedd penodol ac roedd angen inni eu cyflwyno. Ac ar yr un pryd, roeddem eisiau gwneud yn siŵr fod pobl yn cael y cyfle gorau i gael eu holi ac i gyflwyno eu barn ar hynny. Felly, cyflwynwyd nifer o feysydd lle gallech wneud ymgynghoriad rhithwir. Fodd bynnag, dywedasom hefyd fod yn rhaid i awdurdodau lleol hwyluso'r broses o gael cynlluniau ar bapur, a'i gwneud yn haws i bobl weld y rheini os oeddent yn dymuno.
Fi fyddai'r gyntaf i ddweud, Mark, nad yw honno'n system berffaith, ond roedd angen inni wneud rhywbeth er mwyn gallu sicrhau bod y pethau hyn yn dal i ddigwydd, ac nad oeddent wedi dod i stop yn llwyr oherwydd, fel y gwyddoch, rydym yn debygol o wynebu dirywiad economaidd ar ddiwedd y pandemig hwn, a phe baem wedi atal pob datblygiad yn llwyr yn ystod y cyfnod hwn, byddem wedi bod mewn sefyllfa waeth byth. Felly, mae'n ymwneud â cheisio sicrhau'r cyfaddawd cywir rhwng cael ymgysylltiad democrataidd â'r broses gynllunio, rhywbeth rwyf wedi ymrwymo iddo drwy gydol fy ngyrfa, nid fel Aelod o'r Senedd yn unig ond fel cyfreithiwr yn y maes hwnnw—mae'n rhywbeth rwyf wedi ymrwymo'n llwyr iddo. Felly, roedd yn ymwneud â cheisio sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng caniatáu iddo fynd rhagddo a pharhau i sicrhau ymgysylltiad democrataidd.
Os oes gennych unrhyw enghreifftiau penodol lle rydych yn meddwl nad yw hynny'n gweithio, neu os ydych yn credu bod pobl wedi cael eu difreinio'n benodol, rwy'n hapus iawn i edrych ar y manylion. Yn amlwg, nid wyf yn ymwybodol ohonynt ar hyn o bryd.
A llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, wrth inni godi'r cyfyngiadau symud, mae perygl y gwelwn achosion lleol—
Mae'n ddrwg gennyf, Delyth, ni allaf eich clywed o gwbl.
A allwch chi fy nghlywed os wyf fi'n siarad fan hyn, Weinidog?
A ydych chi'n gwisgo'ch clustffonau?
Na. A allwch chi fy nghlywed i nawr?
Mae hynny'n well nawr, ydi.
Iawn, fe symudaf yn agosach at y—. Felly, Weinidog, wrth inni godi'r cyfyngiadau symud, mae perygl o weld achosion lleol yn dod i'r amlwg, fel sydd wedi digwydd ar Ynys Môn; efallai nad oes opsiwn heblaw gosod cyfyngiadau symud lleol. Rwyf am ofyn pa gymorth penodol rydych chi'n ei roi i Ynys Môn i'w helpu gyda'r sefyllfa bresennol y maent yn ei hwynebu ac yn fwy cyffredinol, a fydd polisi o ddarparu cymorth ychwanegol i awdurdodau lleol sy'n wynebu achosion tebyg yn y dyfodol. Os oes angen gweithredu cyfyngiadau symud lleol, gallai hynny olygu bod angen cynlluniau ffyrlo lleol a chymorth ychwanegol.
Ydym, rydym yn gweithio'n galed iawn gydag Ynys Môn. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â Llinos, yr arweinydd yno, sydd wedi bod yn gweithio'n galed iawn o dan amgylchiadau anodd. Siaradais â Llinos ddydd Sul, cawsom gyfarfod gyda hi fore Llun a byddaf yn cael un arall yn nes ymlaen heddiw ac un arall yfory i wneud yn siŵr fod y sefyllfa dan reolaeth, a bod yr awdurdod lleol yn cael y gefnogaeth y maent ei hangen. Ceir cyfres o gyfarfodydd ar lefel swyddogol sy'n cynnwys cyfarfodydd y grŵp rheoli strategol, fel y'i gelwir, ac ystod o gyfarfodydd eraill sy'n digwydd yn rhan o strwythur y drefn reoli aur er mwyn gwneud yn siŵr fod popeth yn ei le fel y dylai fod. Rwy'n falch o ddweud bod y cynllun profi olrhain diogelu i'w weld fel pe bai wedi bod yn gweithio'n dda iawn, yn amlwg, wedi'i staffio gan staff Ynys Môn. Rydym wedi'i wneud fel menter gyhoeddus yma yng Nghymru ac mae hynny i'w weld yn gweithio'n dda.
Mae olrhain cysylltiadau wedi gweithio'n dda ac rydym wedi llwyddo i gysylltu â'r mwyafrif helaeth o bobl sydd wedi dod i gysylltiad â'r feirws. Rydym yn gweithio'n galed—. Mae rhai o'r pethau y sonioch chi amdanynt, wrth gwrs, yn nwylo Llywodraeth y DU—nid ydym yn gallu rhoi cynllun ffyrlo ar waith—ond deallaf fod Prif Weinidog y DU wedi dweud eu bod yn gweithio ar gynlluniau cyfyngiadau symud lleol yn awr wrth i Loegr gefnu ar ei gweithdrefn ar gyfer llacio. Felly, byddwn yn cydweithio gyda hwy ar y pethau rydym yn dibynnu ar Lywodraeth y DU ar eu cyfer, ac yn y cyfamser, rydym yn rhoi cyfres o reoliadau ar waith yma sy'n caniatáu i bethau penodol ddigwydd mewn ardaloedd penodol, os oes angen gwneud hynny. Hoffwn bwysleisio nad ydym yn meddwl bod angen ar hyn o bryd, ond yn amlwg, rydym yn cadw llygad gofalus ar y sefyllfa.
Felly, ar hyn o bryd yng Nghymru, deallaf fod gennym ddau glwstwr ac un digwyddiad, sy'n seiliedig ar lefel yr haint sydd gennym, ond mae'r awdurdodau lleol dan sylw i gyd yn gweithio'n dda iawn gyda ni a'r timau ar lawr gwlad i sicrhau ein bod yn cyfyngu ar ledaeniad y feirws. Mae'r iaith hon yn newydd i bob un ohonom, ond fy nealltwriaeth i yw bod hynny i gyd ar waith. Fel y dywedais, mae Vaughan Gething a minnau'n cyfarfod â Llinos a'i thîm am bump o'r gloch heddiw.
Iawn, diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r hyn rydych newydd ei ddweud. Fel y crybwylloch chi yn eich ateb yn y fan honno, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol yn y system profi, olrhain, diogelu, ond mae rhai wedi nodi y dylid ychwanegu elfen arall at y cynllun hwnnw, sef 'cymorth'. Mae'n amlwg bod cyflogau isel, gwaith ansicr a—wel, y methiannau yn y system les, wedi tanseilio effeithiolrwydd hunanynysu fel mesur iechyd y cyhoedd yn sylweddol. Nawr, mae'n bosibl fod llawer o weithwyr ledled Cymru a ddylai fod yn hunanynysu yn teimlo o dan bwysau gan gyflogwyr gwael, neu oherwydd pwysau ariannol, i barhau i weithio yn lle hynny. A gaf fi ofyn pa waith rydych yn ei wneud gyda Gweinidog yr economi i sicrhau y gellid teilwra pecyn cymorth llawn ar gyfer unrhyw un y gofynnir iddynt hunanynysu, gan y bydd hynny, yn anochel, yn lleihau'r baich ar awdurdodau lleol sy'n cydlynu cymaint o'r system olrhain cysylltiadau?
Ie, rydym yn ymwybodol iawn o rai o'r anawsterau, ac mae'n amlwg fod y clwstwr arbennig hwn yn gysylltiedig â ffatri pacio cig, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod hynny i'w weld yn nodwedd o'r diwydiant braidd; rydym wedi cael un neu ddau o glystyrau eraill ar y cyfandir ac yn y blaen. Felly, mae adolygiad y mae fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths yn ei gynnal yma yng Nghymru, ond ar y cyd â Gweinidogion eraill o bob rhan o Brydain, a chyfandir Ewrop mewn gwirionedd, i ddeall beth yw manylion penodol y diwydiant hwnnw sy'n peri hynny. Mae'n bosibl dyfalu—mae'n oer ac mae'n llaith ac mae llawer o arwynebau metel ac yn y blaen—ond mae angen inni ddeall beth yn union sydd wedi digwydd yn y digwyddiad penodol hwn, ac mae angen inni ddeall hefyd beth yw'r patrwm cyflogaeth, fel y dywedwch, a'r hyn sy'n digwydd i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu, yn enwedig am ein bod eisiau i'r diwydiant oroesi, ac nid ydym eisiau iddo roi'r gorau iddi oherwydd nad oes ganddo weithlu, ond rydym hefyd eisiau i'r gweithlu fod yn ddiogel a sicrhau eu bod yn gallu hunanynysu fel y gallwn reoli'r digwyddiad. Felly, rydych yn llygad eich lle i nodi hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr y dylid rhoi rhai o'r mesurau a awgrymwyd gennych ar waith, ond yn amlwg nid ydynt o fewn ein cymhwysedd datganoledig. Felly, rydym wedi bod yn siarad â Llywodraeth y DU ynglŷn â gwneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael gafael ar gredyd cynhwysol yn gyflym. Rydym yn eu lobïo'n gyson ar y cyfnod aros o bum wythnos, er enghraifft, sy'n amlwg yn anodd iawn yn yr amgylchiadau hynny, ac rydym yn gwneud y mwyaf o fynediad pobl at incwm a systemau cymorth eraill; mae amrywiaeth o bethau y gall yr awdurdodau lleol eu gwneud i sicrhau hynny. Mae pob digwyddiad yn debygol o fod yn wahanol, felly rydym yn ceisio sicrhau nad ydym yn ceisio cynnig un ateb sy'n addas i bawb hefyd oherwydd ei fod yn dibynnu ar natur y gweithlu ac amodau byw pobl ac yn y blaen. Yn yr achos hwn, deallaf fod nifer o'r gweithwyr yn y ffatrïoedd yn byw mewn tai amlfeddiannaeth ac yn y blaen, sy'n creu problemau penodol. Felly, rydym yn gweithio ar y canllawiau hynny, ochr yn ochr â'r awdurdodau lleol, er mwyn rhoi'r hyn a allwn ar waith, ac mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU sawl gwaith mewn perthynas â'r diwygiadau lles y byddem eu hangen, ac rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn parhau i bwyso arnynt hefyd.
Diolch. Yn olaf, Weinidog, mae awdurdodau lleol yn gweithio gyda byrddau iechyd i gydgysylltu rhaglenni prawf gwrthgyrff ar gyfer athrawon a staff y GIG. Nid oes unrhyw breswylwyr na staff cartrefi gofal wedi cael y profion gwrthgyrff hynny hyd yma. Nawr, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yng Ngwent, mae achosion o COVID-19 mewn ysbytai wedi gostwng yn sylweddol, ond yn yr wythnos ddiwethaf roedd achosion newydd mewn 29 o gartrefi gofal. Nawr, mae'n ddigon posibl fod rheswm da dros beidio â darparu'r profion hyn, ond gan fod y sector gofal wedi teimlo eu bod wedi cael eu bradychu mor aml yn ystod y pandemig, ac wedi talu'n ddrud oherwydd hynny, a allech chi egluro pam nad ydych yn gofyn i awdurdodau lleol ddarparu profion gwrthgyrff i staff cartrefi gofal ar hyn o bryd, gan y gallai canlyniadau'r profion hynny ein helpu i ddeall lefelau'r cysylltiad â'r feirws y mae cartrefi gofal wedi bod yn eu hwynebu dros yr wythnosau diwethaf?
Iawn. Nid yw hynny'n rhan o fy mhortffolio o gwbl; mae'n amlwg yn gwestiwn i fy nghyd-Aelod, Vaughan Gething, ac ni allaf esgus mewn unrhyw ffordd fy mod yn arbenigwr ar y gwahanol drefniadau profi na'r canrannau nac unrhyw beth arall. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid yw'r profion hynny'n arbennig o ddefnyddiol i unigolion; maent yn fwy defnyddiol i'r Llywodraeth, er mwyn iddi allu deall lle mae'r feirws wedi bod a sut y gallai fod wedi lledaenu. Maent yn brofion eithaf ymwthiol; maent yn golygu cymryd ffiol o waed gan bobl ac yn y blaen, yn hytrach na phigo bys neu swabio'ch boch, ac nid yw'n rhoi'r darlun llawn i'r unigolyn oherwydd, hyd yn hyn, yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydym yn gwybod, os ydych wedi cael y clefyd, p'un a oes gennych imiwnedd o reidrwydd nac am ba hyd y mae'n para ac yn y blaen.
Rwy'n deall bod dogfen yn mynd allan i staff ysgolion am y prawf, yn egluro beth y mae'n ei wneud a pham y dylai neu pam na ddylai pobl gael y prawf ac yn y blaen, ac nid wyf yn gweld unrhyw reswm pam na allwn rannu honno gydag Aelodau'r Cynulliad—mae'n ddrwg gennyf, Aelodau o'r Senedd. Ac felly fe wnaf yn siŵr fod hynny'n digwydd, Delyth, oherwydd ni allaf esgus fy mod yn arbenigwr ar hynny.