Digartrefedd

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:30, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Hoffwn ganmol yn gyhoeddus hefyd y rhai sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol a'r trydydd sector sydd wedi gweithio ar ddigartrefedd, i sicrhau nad oes rhaid i'r rhai nad ydynt am gysgu ar y stryd wneud hynny. Rwy'n—Rwy'n siŵr fod y Gweinidog—yn pryderu bod rhai, er gwaethaf holl ymdrechion gorau awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector, wedi penderfynu parhau i gysgu ar y strydoedd. A yw'r Gweinidog yn cytuno na allwn, ar ddiwedd y pandemig hwn, ddychwelyd at y lefel o ddigartrefedd ar y stryd a welwyd cyn y pandemig, a bod angen inni sicrhau y rhoddir camau ar waith ymhell cyn i bobl ddod yn ddigartref a gorfod byw ar y stryd?