Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ychwanegu at yr hyn roedd Llyr yn ei ddweud? Mae'n wych gweld bod rhai o'r siopau ym Mhen-coed, Pontycymer a Maesteg wedi ailagor yn ofalus dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, a bod pobl yn dod allan yn ofalus i wario arian ar ein strydoedd mawr lleol. Ond mae'r palmentydd gorlawn yn broblem wirioneddol, ac rwy'n meddwl pa drafodaethau rydych chi a'r Dirprwy Weinidog yn eu cael, nid yn unig gydag awdurdodau lleol, ond gyda chynghorau tref a chymuned—mawr a bach—oherwydd yn aml iawn hwy sydd yn y sefyllfa orau i ddeall yr amgylchedd lleol. Nawr, gallent fwydo i mewn i'r gwaith sy'n cael ei wneud gan awdurdodau lleol i ailadeiladu mewn ffordd wahanol tuag at y normal newydd yn ein canolfannau a rhoi busnesau hyfyw—a lleihau'r risg o ledaenu'r feirws hefyd.