Digartrefedd

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:32, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o nodi'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn y maes yng Nghymru, ac yn wir, yn Lloegr. Nawr, yn Lloegr, ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd £105 miliwn o arian ychwanegol ar gael, y rhan fwyaf ohono'n arian newydd, fel y gellir ymestyn y cynllun i helpu'r rhai sy'n cysgu allan. Ac mae'r BBC wedi adrodd y bydd swm canlyniadol yn deillio o'r penderfyniad hwn yn Lloegr, lle maent yn gobeithio anelu llawer o'r cymorth ychwanegol hwnnw at y math o ofal a chymorth cofleidiol y mae pobl sy'n cysgu allan ei angen yn aml er mwyn iddynt allu cynnal tenantiaeth o ryw fath. A allwch roi sicrwydd inni y byddwch yn defnyddio'r cyllid canlyniadol hwnnw sy'n debygol o ddod i Lywodraeth Cymru mewn modd tebyg?