6. Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:20, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn nodi sut rydym wedi ail-lunio ein cyllideb yn y lle cyntaf i ymateb i'r pandemig coronafeirws. Fel rheol, mae cyllidebau atodol yn gymharol fach, yn ddigwyddiadau technegol yn bennaf, sy'n ymdrin ag addasiadau bach i'n cyllidebau i adlewyrchu effaith gwariant Llywodraeth y DU ar Gymru. Fodd bynnag, mae'r ymateb sy'n esblygu i'r pandemig coronafeirws yn galw am lefelau o fuddsoddiad gan y Llywodraeth na welwyd mo'u tebyg o ran cyflymder a maint yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.

Mae'r gyllideb atodol hon yn sicrhau cynnydd o £2.1 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae hyn 10 y cant yn fwy na'r hyn a nodwyd yn y gyllideb derfynol gwta bedwar mis yn ôl. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon ac am gyhoeddi eu hadroddiad. Er y byddaf yn rhoi ymateb manwl maes o law, rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pwyllgor yn cydnabod y gwaith parhaus sydd ei angen gyda Llywodraeth y DU, o ran cyllid ychwanegol a'r gallu i wneud y defnydd gorau posibl o hyblygrwydd ariannol. Rwy'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd ariannol i'n helpu i ymdopi yn y cyfnod digynsail hwn. Galwn am fynediad llawn at yr adnoddau yn y cronfeydd wrth gefn eleni, os oes angen, a'r gallu i gario mwy o adnoddau a chyfalaf ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae'r penderfyniadau a wnaed gennym wedi arwain at newidiadau digynsail i'n cynlluniau gwariant, ac mae'r gyllideb atodol yn cadarnhau bod dros £2.4 biliwn yn cael ei neilltuo i ymateb Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws. Daw o dair prif ffynhonnell: cyllid sy'n dod i Gymru o ganlyniad i wariant a addawyd ar gyfer mesurau yn Lloegr, cronfa wrth gefn Cymru ar gyfer y coronafeirws a grewyd gennyf drwy ailflaenoriaethu cyllidebau ar fyrder ar draws Llywodraeth Cymru, ac o arian yr Undeb Ewropeaidd wedi'u addasu at ddibenion gwahanol.

Ein blaenoriaeth gyntaf oedd sicrhau bod ein system gofal iechyd yn gallu ymdopi â'r straen ddigynsail y mae'r pandemig yn ei gosod arni, ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i gynyddu ein capasiti arferol. Mae cyllid o £166 miliwn wedi'i ddarparu i agor ysbytai maes ledled Cymru, rhan hanfodol o'n strategaeth i ymateb i argyfwng COVID-19. Mae £30 miliwn wedi'i ddyrannu at ddefnydd pob un o'r chwe ysbyty preifat yng Nghymru a £6 miliwn pellach yn cael ei ddyrannu i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion mewnol iechyd meddwl.

Rydym wedi gorfod cynyddu adnoddau staff o fewn y GIG ar frys i ymdopi â'r galw ychwanegol. Mae £91 miliwn wedi'i neilltuo i wneud yn fawr o'r cyfraniad y gall myfyrwyr gofal iechyd a'r rhai sy'n dychwelyd at y gwasanaeth ei wneud. Rydym hefyd wedi dyrannu £100 miliwn i ddarparu'r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen ar ein staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni eu gwaith yn ddiogel, iddynt hwy eu hunain ac i'w cleifion. Mae profi yn rhan hanfodol o'n cynllun i leihau niwed COVID-19 ac i helpu'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddychwelyd at eu bywydau bob dydd. Mae £57 miliwn wedi'i ddyrannu i gynnal ein strategaeth profi, olrhain, diogelu.  

Mae hefyd wedi ariannu camau gweithredu hanfodol i helpu'r rheini sydd ei angen fwyaf, oherwydd mae'n amlwg fod yr argyfwng yn cael mwy o effaith ar y rheini sydd eisoes yn agored i niwed—pobl sy'n byw mewn tai gwael neu sy'n ddigartref, neu sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ar incwm isel ac sy'n fwyaf tebygol o fod wedi gweld yr incwm hwnnw'n cael ei gwtogi ymhellach fyth. Mae ein hymateb i bandemig y coronafeirws a'r arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu yn ymateb uniongyrchol i'r niwed uniongyrchol i iechyd a achosir gan y pandemig ei hun, ond bwriedir iddo liniaru'r effeithiau ehangach a achosir gan y mesurau cymdeithasol ac economaidd digynsail rydym wedi'u rhoi ar waith fel Llywodraeth i ddiogelu bywydau pobl a lleihau lledaeniad coronafeirws.

Ni oedd y rhan gyntaf o'r DU i ymestyn prydau ysgol am ddim drwy gydol cyfnod y Pasg a thros wyliau'r haf. Rydym wedi ymrwymo £40 miliwn i roi taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen. Er gwaethaf y pandemig, mae ein hawdurdodau lleol yn parhau i ddarparu gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill ac maent yn chwarae eu rhan wrth weithio ar frys i ddiogelu eu gwasanaethau lleol hanfodol o fewn y gymuned. Ar yr un pryd, mae'n anorfod y bydd costau uwch ac incwm yn cael ei golli o ganlyniad i'r camau angenrheidiol y mae'n rhaid inni eu cymryd i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Rydym wedi darparu £188.5 miliwn drwy ein cronfa galedi i awdurdodau lleol i gydnabod eu rôl ehangach yn y gymuned yn ystod yr argyfwng hwn. Ac rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu economi Cymru, gan ddarparu'r pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, gyda chymorth i fusnesau nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth gan y Llywodraeth. Rydym wedi darparu mwy na £1 biliwn y mae llywodraeth leol yn ei ddosbarthu ar ein rhan mewn rhyddhad ardrethi annomestig a grantiau cysylltiedig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Hyd yma, mae awdurdodau lleol wedi cyhoeddi dros 50,700 o grantiau ardrethi busnes, sy'n werth dros £625 miliwn.

Mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn eisoes wedi darparu grantiau i fwy na 6,000 o fusnesau bach a chanolig a benthyciadau i 1,000 yn rhagor, gan roi cymorth hanfodol i fusnesau, yn enwedig microfusnesau, a busnesau bach a chanolig eu maint sy'n galon ein heconomi, yn ogystal ag elusennau a mentrau cymdeithasol. Er bod y symiau o arian rydym yn sôn amdanynt yn fawr, mae maint yr her hefyd yn fawr. Mae cael y cymorth cywir i'n gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau wedi golygu cydbwyso penderfyniadau anodd bob dydd. Rydym wedi cael ein harwain, a byddwn yn parhau i gael ein harwain gan ystyriaeth o'r hyn sy'n deg pan fydd cyllid cyhoeddus yn wynebu pwysau mor enfawr.

Rydym hefyd wedi cymryd camau brys i ymateb i'r effaith anghymesur gynyddol a gaiff y pandemig hwn ar rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda dyraniadau cyllid, gan gynnwys £15 miliwn cychwynnol ar gyfer cynllun cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i'r rhai a warchodir oherwydd bod ganddynt gyflyrau meddygol sy'n eu gwneud yn agored iawn i COVID-19, ac sydd heb ffordd arall o gael cyflenwadau angenrheidiol, a chronfa ymateb gwerth £24 miliwn i'r trydydd sector i gefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar y penderfyniadau a wnaed gennym eisoes ac a adlewyrchir yn y gyllideb atodol gyntaf. Bydd cyfle ar 15 Gorffennaf i drafod y dewisiadau anodd y bydd angen i ni eu gwneud ar gyfer ein blaenoriaethau cyllidebol sydd i ddod ar gyfer 2021-22. Mae'r rhain yn gysylltiedig ag adferiad o'r pandemig, a sut y gallai fod angen i ni ymateb i'r risg y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb masnach, yn ogystal â'r dewisiadau anodd y byddwn yn parhau i'w gwneud yn ein cynlluniau yn 2021, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarfer i ailflaenoriaethu gwariant cyfalaf ar y cyfle cyntaf.

Dros y misoedd nesaf, byddaf yn monitro ac yn rheoli ein sefyllfa ariannol yn ofalus wrth gwrs a bwriadaf gyflwyno ail gyllideb atodol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Felly, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn.