6. Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21

– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:20, 24 Mehefin 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar y gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2020-21, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7335 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Iau 28 Mai 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:20, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Mae'r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn nodi sut rydym wedi ail-lunio ein cyllideb yn y lle cyntaf i ymateb i'r pandemig coronafeirws. Fel rheol, mae cyllidebau atodol yn gymharol fach, yn ddigwyddiadau technegol yn bennaf, sy'n ymdrin ag addasiadau bach i'n cyllidebau i adlewyrchu effaith gwariant Llywodraeth y DU ar Gymru. Fodd bynnag, mae'r ymateb sy'n esblygu i'r pandemig coronafeirws yn galw am lefelau o fuddsoddiad gan y Llywodraeth na welwyd mo'u tebyg o ran cyflymder a maint yn y cyfnod ar ôl y rhyfel.

Mae'r gyllideb atodol hon yn sicrhau cynnydd o £2.1 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae hyn 10 y cant yn fwy na'r hyn a nodwyd yn y gyllideb derfynol gwta bedwar mis yn ôl. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ystyried y gyllideb hon ac am gyhoeddi eu hadroddiad. Er y byddaf yn rhoi ymateb manwl maes o law, rwy'n bwriadu derbyn yr argymhellion.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod y pwyllgor yn cydnabod y gwaith parhaus sydd ei angen gyda Llywodraeth y DU, o ran cyllid ychwanegol a'r gallu i wneud y defnydd gorau posibl o hyblygrwydd ariannol. Rwy'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd ariannol i'n helpu i ymdopi yn y cyfnod digynsail hwn. Galwn am fynediad llawn at yr adnoddau yn y cronfeydd wrth gefn eleni, os oes angen, a'r gallu i gario mwy o adnoddau a chyfalaf ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae'r penderfyniadau a wnaed gennym wedi arwain at newidiadau digynsail i'n cynlluniau gwariant, ac mae'r gyllideb atodol yn cadarnhau bod dros £2.4 biliwn yn cael ei neilltuo i ymateb Llywodraeth Cymru i'r coronafeirws. Daw o dair prif ffynhonnell: cyllid sy'n dod i Gymru o ganlyniad i wariant a addawyd ar gyfer mesurau yn Lloegr, cronfa wrth gefn Cymru ar gyfer y coronafeirws a grewyd gennyf drwy ailflaenoriaethu cyllidebau ar fyrder ar draws Llywodraeth Cymru, ac o arian yr Undeb Ewropeaidd wedi'u addasu at ddibenion gwahanol.

Ein blaenoriaeth gyntaf oedd sicrhau bod ein system gofal iechyd yn gallu ymdopi â'r straen ddigynsail y mae'r pandemig yn ei gosod arni, ac rydym wedi darparu cyllid ychwanegol i gynyddu ein capasiti arferol. Mae cyllid o £166 miliwn wedi'i ddarparu i agor ysbytai maes ledled Cymru, rhan hanfodol o'n strategaeth i ymateb i argyfwng COVID-19. Mae £30 miliwn wedi'i ddyrannu at ddefnydd pob un o'r chwe ysbyty preifat yng Nghymru a £6 miliwn pellach yn cael ei ddyrannu i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion mewnol iechyd meddwl.

Rydym wedi gorfod cynyddu adnoddau staff o fewn y GIG ar frys i ymdopi â'r galw ychwanegol. Mae £91 miliwn wedi'i neilltuo i wneud yn fawr o'r cyfraniad y gall myfyrwyr gofal iechyd a'r rhai sy'n dychwelyd at y gwasanaeth ei wneud. Rydym hefyd wedi dyrannu £100 miliwn i ddarparu'r cyfarpar diogelu personol sydd ei angen ar ein staff iechyd a gofal cymdeithasol i gyflawni eu gwaith yn ddiogel, iddynt hwy eu hunain ac i'w cleifion. Mae profi yn rhan hanfodol o'n cynllun i leihau niwed COVID-19 ac i helpu'r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol i ddychwelyd at eu bywydau bob dydd. Mae £57 miliwn wedi'i ddyrannu i gynnal ein strategaeth profi, olrhain, diogelu.  

Mae hefyd wedi ariannu camau gweithredu hanfodol i helpu'r rheini sydd ei angen fwyaf, oherwydd mae'n amlwg fod yr argyfwng yn cael mwy o effaith ar y rheini sydd eisoes yn agored i niwed—pobl sy'n byw mewn tai gwael neu sy'n ddigartref, neu sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi ar incwm isel ac sy'n fwyaf tebygol o fod wedi gweld yr incwm hwnnw'n cael ei gwtogi ymhellach fyth. Mae ein hymateb i bandemig y coronafeirws a'r arian ychwanegol rydym wedi'i ddarparu yn ymateb uniongyrchol i'r niwed uniongyrchol i iechyd a achosir gan y pandemig ei hun, ond bwriedir iddo liniaru'r effeithiau ehangach a achosir gan y mesurau cymdeithasol ac economaidd digynsail rydym wedi'u rhoi ar waith fel Llywodraeth i ddiogelu bywydau pobl a lleihau lledaeniad coronafeirws.

Ni oedd y rhan gyntaf o'r DU i ymestyn prydau ysgol am ddim drwy gydol cyfnod y Pasg a thros wyliau'r haf. Rydym wedi ymrwymo £40 miliwn i roi taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen. Er gwaethaf y pandemig, mae ein hawdurdodau lleol yn parhau i ddarparu gofal cymdeithasol, addysg a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill ac maent yn chwarae eu rhan wrth weithio ar frys i ddiogelu eu gwasanaethau lleol hanfodol o fewn y gymuned. Ar yr un pryd, mae'n anorfod y bydd costau uwch ac incwm yn cael ei golli o ganlyniad i'r camau angenrheidiol y mae'n rhaid inni eu cymryd i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Rydym wedi darparu £188.5 miliwn drwy ein cronfa galedi i awdurdodau lleol i gydnabod eu rôl ehangach yn y gymuned yn ystod yr argyfwng hwn. Ac rydym wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu economi Cymru, gan ddarparu'r pecyn cymorth busnes mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU, gyda chymorth i fusnesau nad ydynt yn gymwys i gael mathau eraill o gymorth gan y Llywodraeth. Rydym wedi darparu mwy na £1 biliwn y mae llywodraeth leol yn ei ddosbarthu ar ein rhan mewn rhyddhad ardrethi annomestig a grantiau cysylltiedig i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Hyd yma, mae awdurdodau lleol wedi cyhoeddi dros 50,700 o grantiau ardrethi busnes, sy'n werth dros £625 miliwn.

Mae ein cronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn eisoes wedi darparu grantiau i fwy na 6,000 o fusnesau bach a chanolig a benthyciadau i 1,000 yn rhagor, gan roi cymorth hanfodol i fusnesau, yn enwedig microfusnesau, a busnesau bach a chanolig eu maint sy'n galon ein heconomi, yn ogystal ag elusennau a mentrau cymdeithasol. Er bod y symiau o arian rydym yn sôn amdanynt yn fawr, mae maint yr her hefyd yn fawr. Mae cael y cymorth cywir i'n gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau wedi golygu cydbwyso penderfyniadau anodd bob dydd. Rydym wedi cael ein harwain, a byddwn yn parhau i gael ein harwain gan ystyriaeth o'r hyn sy'n deg pan fydd cyllid cyhoeddus yn wynebu pwysau mor enfawr.

Rydym hefyd wedi cymryd camau brys i ymateb i'r effaith anghymesur gynyddol a gaiff y pandemig hwn ar rai o'r bobl fwyaf difreintiedig yng Nghymru, gyda dyraniadau cyllid, gan gynnwys £15 miliwn cychwynnol ar gyfer cynllun cyflenwi bwyd yn uniongyrchol i'r rhai a warchodir oherwydd bod ganddynt gyflyrau meddygol sy'n eu gwneud yn agored iawn i COVID-19, ac sydd heb ffordd arall o gael cyflenwadau angenrheidiol, a chronfa ymateb gwerth £24 miliwn i'r trydydd sector i gefnogi'r sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar y penderfyniadau a wnaed gennym eisoes ac a adlewyrchir yn y gyllideb atodol gyntaf. Bydd cyfle ar 15 Gorffennaf i drafod y dewisiadau anodd y bydd angen i ni eu gwneud ar gyfer ein blaenoriaethau cyllidebol sydd i ddod ar gyfer 2021-22. Mae'r rhain yn gysylltiedig ag adferiad o'r pandemig, a sut y gallai fod angen i ni ymateb i'r risg y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb masnach, yn ogystal â'r dewisiadau anodd y byddwn yn parhau i'w gwneud yn ein cynlluniau yn 2021, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymarfer i ailflaenoriaethu gwariant cyfalaf ar y cyfle cyntaf.

Dros y misoedd nesaf, byddaf yn monitro ac yn rheoli ein sefyllfa ariannol yn ofalus wrth gwrs a bwriadaf gyflwyno ail gyllideb atodol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Felly, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r cynnig hwn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:28, 24 Mehefin 2020

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i siarad, Llyr Gruffydd. 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser gennyf siarad yn y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Cyllid. Gwnaeth y pwyllgor gyfarfod i ystyried y gyllideb atodol yma ar 4 Mehefin, ac dwi'n nodi sylwadau cadarnhaol, cychwynnol, beth bynnag y Gweinidog i'r argymhellion yn yr adroddiad, ac rŷm ni'n edrych ymlaen at dderbyn yr ymateb ffurfiol.

Ond fel mae'r Gweinidog yn dweud, mae'r gyllideb atodol hon yn cael ei chyflwyno yn ystod cyfnod digynsail. Mi oedd y Senedd yma eisoes wedi pasio’r gyllideb derfynol ar gyfer 2020-21 cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyflwyno ei chyllideb hithau, felly roeddem ni yn disgwyl i'r gyllideb atodol yma nodi cyllid canlyniadol. Ond wnaeth neb erioed ragweld newidiadau mor sylweddol fel y rhai rŷm ni wedi eu gweld yn sgil y pandemig COVID-19.

Mae'r gyllideb atodol gyntaf hon yn cynyddu adnoddau cyllidol Llywodraeth Cymru £2.3 biliwn, ac mae'r rhan fwyaf o hynny’n deillio o gyllid canlyniadol sy'n gysylltiedig â’r penderfyniadau polisi a wnaed gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymateb i COVID-19. Mae ein hadroddiad ni'n cynnwys nifer o argymhellion, ac fe wnaf i gyfeirio’n gryno at y prif feysydd rheini heddiw.

Mae llawer o'n hargymhellion ni yn ymwneud â'r trefniadau gweithio rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Fel pwyllgor, rŷm ni’n credu bod yn rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn gynharach ynghylch penderfyniadau mawr sy'n effeithio ar Gymru, a rhoi mwy o sicrwydd o ran y cyllid fydd yn cael ei ddarparu. Mae'r pwyllgor hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried a chyflwyno achos i'r Trysorlys ynghylch a yw’r fformiwla ariannu yn adlewyrchu’n ddigonol effaith COVID-19 ar Gymru o'i chymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Fe drafododd y pwyllgor yr ysgogiadau, neu'r levers ariannol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac fe ddywedodd y Gweinidog wrth yr Aelodau ei bod wedi cysylltu â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ofyn am bwerau i drosglwyddo cyfalaf presennol i refeniw, ac i ganiatáu mwy o hyblygrwydd o ran y terfynau blynyddol ar gronfa wrth gefn Cymru ac o fewn y terfynau cyffredinol ar fenthyca cyfalaf. Mae'r pwyllgor yn cefnogi'r Gweinidog yn y ceisiadau hyn. Nawr, mi fydd y pwyllgor yn cael tystiolaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Gorffennaf ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at fynd i'r afael, gydag ef, a rhai o'r materion yma hefyd.

Wrth ymateb i’r pandemig COVID-19, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ailddyrannu cyllid, gyda £256 miliwn yn cael ei ddychwelyd i'r gronfa ganolog. Mae hyn yn cynnwys y sefyllfaoedd hynny lle na fu’n bosib defnyddio cyllid a oedd wedi'i gynllunio, yn ogystal â’r gostyngiad mewn cyllid ar gyfer rhai cyrff, fel Cyfoeth Naturiol Cymru—ac rŷm ni wedi clywed hynny'n cael ei grybwyll yn gynharach y prynhawn yma—a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Er bod y pwyllgor yn derbyn y bu’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn sgil yr ymateb i COVID-19, mae'r pwyllgor yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynnal deialog barhaus gyda sefydliadau sy’n wynebu gostyngiadau yn eu cyllid.

Mae'r gyllideb atodol yn gwneud nifer o ddyraniadau newydd, hefyd, yn enwedig i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, llywodraeth leol a'r economi. Mae'r pwyllgor yn sylweddoli y bydd angen gwneud rhagor o ddyraniadau yn ystod y flwyddyn i ymateb i COVID-19, felly mae wedi gwneud nifer o argymhellion ym maes iechyd, gan gynnwys ynghylch datgomisiynu ysbytai maes, darparu’r strategaeth profi, olrhain a diogelu a'r costau ychwanegol gwirioneddol a rhagamcanol ar gyfer byrddau iechyd lleol o ganlyniad i COVID-19.

Wrth edrych i’r dyfodol at y cyfnod adfer o'r pandemig, mae'n amlwg y bydd angen cefnogi'r economi ac rŷm ni, fel pwyllgor, yn awyddus i ddeall sut y gall Llywodraeth Cymru gyflymu gwaith yn y maes hwn a rhoi ffocws ar gefnogi canol trefi. Mae gan y pwyllgor ddiddordeb hefyd mewn gwybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyllid a ddarperir i gynorthwyo'r broses adfer o COVID-19 yn canolbwyntio ar adferiad gwyrdd. Er enghraifft, sut mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd modd adeiladu ar y newidiadau cadarnhaol i drafnidiaeth sydd wedi deillio o'r pandemig? Rŷm ni hefyd eisiau deall mwy am y modd y mae rôl y Cwnsler Cyffredinol yn y broses adfer yn cyd-fynd â rôl y Gweinidog cyllid.

Yn olaf, fe wnaethom ni ystyried cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae'n hawdd colli golwg ar y dyddiad cau sydd ar y gorwel a ninnau wedi canolbwyntio gymaint ar COVID-19, ac mae'n amlwg bod angen mynd i'r afael â hyn yn ogystal. Mae'r pwyllgor yn pryderu bod y pandemig COVID-19 yn cyfyngu'n ddifrifol ar staff Llywodraeth Cymru a’r adnoddau ariannol sydd ar gael i baratoi at ddiwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, a'i gallu i gefnogi’r sector amaethyddiaeth, i gefnogi busnesau a dinasyddion gyda’r newidiadau posib. Er bod y Gweinidog wedi dweud wrthym ni fod ganddi gyllid wrth gefn yn ystod y flwyddyn wedi’i ddal yn ôl hyd nes ceir rhagor o eglurder, mi fyddem ni'n croesawu rhagor o fanylion am y senarios cynllunio sy'n cael eu hystyried a'r cyllid sydd ei angen. Gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch i'r Senedd am ei gwrandawiad?

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 3:34, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw ers tro am gyllideb atodol frys i ddarparu tryloywder ac eglurder o ran gwario arian ar yr adeg anodd hon. Ac wrth gwrs, rydym yn cydnabod yr heriau y mae'r pandemig yn ei gyflwyno i holl Lywodraethau'r DU, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dymuno bod yn wrthblaid adeiladol ar yr adeg hon.  

Ers i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-21 gael ei chymeradwyo ar 3 Mawrth, mae ei chyllideb wedi cynyddu mwy na 10 y cant. Roedd cyhoeddi cyllideb atodol Llywodraeth Cymru felly yn gyfle i Lywodraeth Cymru newid gêr yn llwyr yn y ffordd y mae'n blaenoriaethu ei chyllid, felly mae'n peri pryder i weld cyn lleied o ailflaenoriaethu ymarferol, yng ngoleuni'r cynnydd enfawr yn y cyllid ar gyfer ei chyllideb.

Nawr, a gaf fi yn gyntaf groesawu peth o'r ailflaenoriaethu sydd wedi digwydd ar raddfa lai, ac rwyf wedi trafod hyn gyda'r Gweinidog cyllid, pethau megis trosglwyddo arian o'r gronfa digwyddiadau mawr? Mae hwn yn gam cwbl synhwyrol. Mae'n cael ei groesawu. Mae'n eithaf amlwg eleni, ar hyn o bryd, nad oes llawer o ddigwyddiadau mawr yn digwydd, felly mae ailflaenoriaethu o'r fath yn rhywbeth y gallwn ei gefnogi. Lle mae ailflaenoriaethu wedi digwydd, gwelwyd hynny at ei gilydd yn y portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sydd wedi addasu cyfanswm o £114 miliwn at ddibenion gwahanol, sy'n ddealladwy o gofio bod pandemig COVID-19 wedi bod yn argyfwng iechyd nas gwelwyd ei debyg erioed o'r blaen yng Nghymru. Fodd bynnag, siom oedd gweld bod llawer llai o addasu wedi digwydd mewn meysydd portffolio eraill, er enghraifft, portffolios yr economi a thrafnidiaeth, y neilltuwyd cyfanswm o £50 miliwn a £46.6 miliwn ar eu cyfer, nad yw'n gymaint o ailflaenoriaethu ag y mae'r gyllideb iechyd wedi'i weld, ar wahân i'r rhaglenni y soniodd y Gweinidog amdanynt sydd i'w croesawu, megis y gronfa cadernid economaidd.  

Bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'r setliad heriol iawn sy'n wynebu llywodraeth leol ar hyn o bryd er gwaethaf symiau canlyniadol Barnett gan Lywodraeth y DU. Ac rwy'n derbyn bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu arian i gefnogi llywodraeth leol, ond mae cynghorau ledled Cymru yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd. Mae hyn yn gadael cynghorau lleol gyda mwy o gwestiynau nag atebion, ac yn dal i orfod gwneud penderfyniadau anodd. Er bod rhai dyraniadau wedi cael eu gwneud, mae effaith COVID-19 wedi bod yn llethol ar gymunedau lleol. Mae angen cydnabod hyn a'u cefnogi ymhellach, yn enwedig wrth lacio'r cyfyngiadau symud.

Nid yw'r gyllideb atodol y tro hwn yn debyg i'r gyllideb dechnegol rydym wedi arfer ei gweld yn y gorffennol, fel y dywedodd y Gweinidog yn hollol gywir. Mewn sawl ffordd, mae'n gyllideb argyfwng ac yn un roeddem am ei gweld. Ond roedd yn gyfle i anfon neges at bobl Cymru fod Llywodraeth Cymru yn ailflaenoriaethu arian yn fforensig ar bob lefel i liniaru effaith COVID-19 ar ein cymunedau. Ond faint o ailflaenoriaethu go iawn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd? Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n dyfynnu, 'Cyfarfûm â phob Gweinidog a Dirprwy Weinidog i gwestiynu eu cyllidebau'. Wel, rwy'n credu bod hynny'n wych cyn belled ag y mae'n mynd, a gwrandewais ar yr hyn a oedd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i'w ddweud yn flaenorol, ond credaf fod angen cwestiynu ymhellach, yn enwedig os ydym yn edrych ar ail gyllideb atodol yn y dyfodol agos. 

Felly, rhai cwestiynau. Sut y mae'r Gweinidog yn asesu bod pob ceiniog bosibl yn cael ei gwario i wrthbwyso effaith COVID-19 yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer ein hadferiad yn sgil COVID-19? A yw'r Gweinidog o ddifrif yn ffyddiog y gall roi cyfrif am bob gwariant gan adrannau'r Llywodraeth, a bod pob dim posibl wedi'i wneud i ailflaenoriaethu arian? Ac a all y Gweinidog roi ymrwymiad pendant i bobl Cymru heddiw fod rhaglenni cyllido nad ydynt o fudd uniongyrchol i les iechyd cyhoeddus ac economaidd y wlad wedi cael eu dargyfeirio i sicrhau y caiff gwasanaethau rheng flaen eu cefnogi'n llawn?  

Mae Cymru ar groesffordd yn awr. Wrth i'n polisïau ddechrau dilyn llwybr gwahanol i'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr, mae'n siŵr y bydd bwlch yn lefelau'r symiau canlyniadol a dderbynnir, ac mae modelau a rhagolygon ariannol Llywodraeth Cymru yn gwbl hanfodol wrth symud ymlaen. Pe bai polisïau'n parhau i ddilyn llwybr gwahanol, bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru lenwi'r bylchau yn y cyllid a gollir gan Lywodraeth y DU—dewis gwleidyddol gyda chost ariannol, gallech ddweud. Weinidog, pa drafodaethau brys rydych yn eu cael gyda'ch cyd-Weinidogion ynglŷn â'r modd y bydd polisïau gwahanol yn effeithio ar gyllidebau adrannol ac yn bwysicach, pa drafodaethau rydych wedi dechrau eu cael ynglŷn â llenwi rhai o'r bylchau hynny o bosibl?  

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:39, 24 Mehefin 2020

Mae o wedi cael ei ddweud gan eraill, mi wnaf innau ddweud hefyd: dwi'n sylweddoli bod y gyllideb atodol yma yn cael ei chyhoeddi mewn amgylchiadau cwbl digynsail. Mae yna dros £2 biliwn o arian ychwanegol wedi dod i mewn i Gymru yn arian canlyniadol oherwydd yr ymateb i COVID-19 ar lefel Brydeinig. Mi fyddai swm ychwanegol o'r math hwnnw fel arfer yn cynnig bob mathau o opsiynau ar gyfer gwariant ond, wrth gwrs, y gwir amdani ydy bod yr arian hwnnw wedi bod at bwrpas penodol iawn yn yr achos yma—yr ymateb uniongyrchol a'r ymateb acíwt, wrth gwrs, i'r pandemig, ac mi fydd angen rhagor hefyd yn y misoedd i ddod.

O ran yr arian sydd wedi dod, rwyf innau'n nodi mai dim ond arian canlyniadol o brif amcangyfrifon sydd wedi cael ei gynnwys yn y gyllideb atodol yma, a bod gwariant arall yn Lloegr y tu allan i'r prif amcangyfrifon hynny wedi cael ei adael allan. Dwi'n gweld bod tîm ymchwil fiscal Canolfan Llywodraethiant Cymru yn amcangyfrif y gallai fod cymaint â £400 miliwn yn ychwanegol i ddod, felly mi gawn ni edrych ymlaen at gyllideb atodol arall i weld yr arian hwnnw yn cael ei ddyrannu. 

Mae yna gwestiynau pwysig iawn, dwi'n meddwl, yn codi yma o ran sut y cyrhaeddwyd at y ffigurau o ran arian canlyniadol i Gymru. Mae yna gwestiynau, fel rydyn wedi clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ynglŷn â natur y drafodaeth rhwng Llywodraethau Cymru â'r Deyrnas Unedig ynglŷn â lefel y gefnogaeth sydd ei angen ar Gymru, efo pobl hŷn yn gyffredinol dlotach, ac o ystyried y grwpiau sydd wedi bod fwyaf agored i newid yn y pandemig yma, mae angen gofyn pa fesur sydd yna wedi bod o wir anghenion Cymru.

Ond dwi yn derbyn, fel y dywedais, fod rhelyw'r arian sydd wedi dod wedi mynd ar bethau—wedi gorfod mynd ar bethau adweithiol, angenrheidiol. Ond hyd yn oed ar yr amser yma, fy apêl i ydy hyn: mae angen inni allu gweld arwyddion gan Lywodraeth Cymru o arian yn cael ei wario mewn ffordd ragweithiol wrth inni edrych ymlaen i'r cyfnod ar ôl COVID, ac mi fydd yna waith i ymateb i broblemau sy'n cronni o ran iechyd y cyhoedd, problemau iechyd meddwl, oherwydd ffactorau llesiant, a'r heriau sydd wedi codi o ran hynny. Hefyd, wrth reswm, bydd y gwaith enwog yna o ailadeiladu economi, creu cyfleon swyddi newydd i'r rhai sydd wedi teimlo'r ergyd economaidd galetaf. Rydyn ni angen pecynnau wedi cael eu teilwra yn ofalus iawn i'r anghenion fydd gennym ni. A hefyd dwi'n cytuno efo'r pwynt gafodd ei wneud gan Llyr Gruffydd y bydd angen gwneud yn siŵr bod yna fuddsoddiad priodol yn mynd i mewn i sicrhau bod yr adferiad yn un gwyrdd, sydd wedi bod yn thema dwi wedi bod yn falch iawn o'i gweld yn cael ei hamlygu dros y misoedd diwethaf. 

Dwi am symud ymlaen drwy gyfeirio at yr angen i edrych o'r newydd ar rai o elfennau sylfaenol y berthynas fiscal rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig, a'r ddadl gryfach nag erioed rŵan, dwi'n meddwl, i roi llawer mwy o hyblygrwydd i'r rheolau hynny, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn cytuno efo fi ar lawer o hyn. Mae yna bwysau o ran cyllidebau ar draws holl adrannau'r Llywodraeth ar hyn o bryd, ond mae yna arian wrth gefn—heb ei ddyrannu, wrth gwrs—a dwi'n cytuno efo'r angen i alluogi Llywodraeth Cymru i gael mwy o fynediad at yr arian hwnnw. Un o'r pethau rydyn ni angen gweld cynnydd yn y gwariant arno fo yn y misoedd i ddod ydy ar waith olrhain gan lywodraeth leol. Mae'r cynghorau wedi gwneud gwyrthiau hyd yma yn tynnu staff i mewn ar draws eu gweithlu i wneud gwaith olrhain, ond gall hynny ddim para'n hir iawn. Pan fydd staff yn gorfod mynd yn ôl i'w swyddi arferol nhw, mi fydd cynghorau angen arian ychwanegol sylweddol i gyflogi staff proffesiynol i wneud y gwaith olrhain. Mae angen llacio rheolau benthyg hefyd. Er enghraifft, mi fyddwn ni am i Lywodraeth Cymru fanteisio ar hawliau benthyg llawer ehangach. Mae'n amser da iawn i fenthyg, i fuddsoddi ymhob agwedd ar isadeiledd cenedlaethol Cymru, ac rydyn ni angen yr hwb yna beth bynnag, neu mi oedden ni ei angen o cyn hyn—mae o'n fwy allweddol fyth rŵan i wneud y buddsoddiad yna yn ein dyfodol ni. A dwi'n meddwl bod eisiau llacio'r rheolau ar ganiatáu defnyddio'r cyllidebau cyfalaf ar gyfer gwariant refeniw hefyd. Mae yna sawl elfen i hyn. 

Felly, i gloi, mi ddechreuais i drwy ddweud bod y rhain yn ddyddiau digynsail, a beth sydd ei angen ar adegau felly, fel arfer, ydy arloesedd a pharodrwydd i newid. Dwi'n gwybod bod y Llywodraeth yn cytuno efo fi ar lawer o hynny. Ymatal fyddwn ni ar y gyllideb atodol, ar y bleidlais ei hun, ond mi fyddwn ni'n cefnogi, yn sicr, y Llywodraeth yn ei hymdrechion i fynd ar ôl y math o newidiadau i reolau fiscal y mae'r Gweinidog yn eu cefnogi, ac mi fyddwn ni'n annog y Llywodraeth hefyd i fod yn ddewr ac i fynd ymhellach a chwilio am gyfleon newydd i ailosod y berthynas yna rhwng Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hynny o beth. 

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 3:44, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Byddwn ni yn y grŵp Brexit hefyd yn ymatal ar y gyllideb atodol yn hytrach na phleidleisio yn erbyn. Yn gyffredinol, fel y dywedodd y Gweinidog, newidiadau bach technegol a mân ydynt, ond mae'n unrhyw beth ond hynny y tro hwn. Hynny yw, y ffigurau'n unig: £2.1 biliwn—mae ychwanegu 10 y cant at y gyllideb mewn ychydig fisoedd yn unig yn gwbl eithriadol.

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 3:45, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf am ystyried yr hyn y credaf ei fod yn wahaniaeth pwysig rhwng y ffordd rydym yn cyllidebu yng Nghymru a'r modd y caiff ei wneud ar lefel y DU, yn enwedig mewn argyfwng fel hwn. Mae'n fy nharo i fod Llywodraeth y DU wedi ystyried ac wedi gwneud ei phenderfyniadau ynglŷn â pha wariant y mae'n ei ystyried yn angenrheidiol—weithiau ar draws y DU, ac efallai'n amlach ar gyfer Lloegr. Ac yna, ar ôl gwneud y penderfyniad hwnnw, mae'n benthyca wedyn neu'n sicrhau bod pa arian bynnag sydd ei angen yn cael ei argraffu. Ond yr hyn y mae hynny'n ei wneud yw sicrhau mai'r asesiad o'r gwariant angenrheidiol sy'n llywio'r penderfyniad ynglŷn â faint sy'n cael ei wario. Ond yng Nghymru, rwy'n credu bod rhywfaint o ailflaenoriaethu wedi bod, ac rwy'n cefnogi llawer o'r hyn sydd wedi digwydd. Ond mae llawer o'r hyn rydym wedi'i wneud wedi bod yn adwaith i symiau canlyniadol, felly yn hytrach na phenderfynu pa arian y mae angen inni ei wario, ac yna sut i'w gyllido, rydym yn aros i weld faint o arian y mae Llywodraeth y DU yn penderfynu sydd angen ei wario yn Lloegr, a chawn swm canlyniadol wedyn, a byddwn yn edrych ar wario hwnnw. Felly, mae'n groes i'r ffordd y caiff y broses ei gwneud. A tybed: a oes perygl yn y broses honno, yn enwedig pan fyddwn yn dyrannu cymaint o wariant canlyniadol mor gyflym o'i gymharu â'r hyn rydym wedi arfer ag ef, nad oes gennym yr un graddau o reolaeth a ffocws ar werth am arian ag y byddai gennym fel arall. Rwy'n credu efallai fod hynny'n ddealladwy o dan yr amgylchiadau, ond efallai hefyd fod yna rywbeth am ein proses a'n gwaith craffu nad yw wedi'i sefydlu cystal ar gyfer newidiadau gwariant o'r maint hwn na'r hyn a fyddai gennym fel arfer. Ac ar y Pwyllgor Cyllid, credaf ein bod wedi derbyn yr agwedd bragmatig y mae'r Gweinidog wedi'i mabwysiadu a'i pharodrwydd i ymgysylltu. Ac fel hithau, rwy'n croesawu'r ddadl a gawn ar 15 Gorffennaf, gan edrych ymlaen at weld beth fydd y blaenoriaethau gwario, ac rwy'n gobeithio y bydd siarad nid yn unig am y pethau yr hoffem eu gweld, ond hefyd am y cyfaddawdu anochel sy'n gysylltiedig â hynny.

Rwy'n credu ei bod yn hawdd i ni fel ACau unigol fynd at y Gweinidog a chynrychioli etholwyr penodol neu sectorau penodol sy'n dod atom a dweud, 'Wel, mae hyn a'r llall wedi cael help, ond nid oes ganddynt gymaint yn y maes hwn—oni ddylai mwy gael ei wneud?' A phenllanw'r ymagweddau hynny yw llawer mwy o wario. A chefais fy nghalonogi'n fawr gan beth o'r hyn a ddywedodd Mark Drakeford yn gynharach wrth ymateb i Suzy Davies. Yr enghraifft benodol oedd parciau carafannau, ond gallai fod wedi bod yn bob math o wahanol feysydd. Ac yn blwmp ac yn blaen, os yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio cofrestru ar gyfer TAW fel ffordd o sicrhau o leiaf rywfaint o reolaeth ariannol a rheolaeth archwilio ar wariant, mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn ei groesawu. O safbwynt archwilio, mae'n her i ddod o hyd i fesurau ffwrdd-â-hi ond defnyddiol er hynny. Ac efallai ein bod yn derbyn y bydd cryn dipyn o arian, mewn rhyw ffordd o leiaf—pan fydd y cyfan yno o hyd, hyd yn oed yn y fan honno, mae'n cefnogi pobl sydd angen y cymorth hwnnw, hyd yn oed os nad ydynt yn gallu ei ddefnyddio i gynnal eu busnes yn llwyddiannus yn y pen draw. Ond rwy'n tybio, ar ôl hyn, y byddwn yn edrych yn ôl ac yn dod o hyd i enghreifftiau eithaf sylweddol a mawr, nid yn unig o'r math hwnnw o wariant, ond hefyd o wariant sydd o leiaf, gellir dadlau, yn dwyllodrus. Ac rwy'n credu bod angen inni barhau i ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gael rhyw raddau o oruchwyliaeth a rhywfaint o sicrwydd, a gwneud y penderfyniadau gorau y gall eu gwneud ynglŷn â sut i wneud hynny mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym.

A gaf fi ofyn ar yr ochr iechyd—nid wyf yn credu y byddai neb yn beirniadu'r Gweinidogion na'r byrddau iechyd am y gwariant a welsom ar yr ysbytai Nightingale fel y'u gelwir—y mwyaf yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd—a'r ffordd, i bob pwrpas, nad ydynt wedi cael eu defnyddio i raddau helaeth. Ond wrth edrych yn ôl ar hynny, a oes gwersi y gellir eu dysgu'n fuddiol o hyd i'w cymhwyso ar yr adeg hon yn yr argyfwng, yn hytrach na rhywbeth ar gyfer ymchwiliad yn nes ymlaen? Soniodd y Gweinidog am £57 miliwn, rwy'n credu, ar gyfer profi, olrhain a diogelu. Credaf fod elfennau o hynny wedi bod yn eithaf da yng Nghymru—defnyddio staff y sector cyhoeddus, rwy'n credu, o gymharu â chyflogi pobl nad ydynt wedi cael cymaint o hyfforddiant o'r sector preifat yn y tymor byr, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr gyda Llywodraeth y DU. Efallai fod hynny'n gweithio'n fwy effeithiol, er yr hoffwn astudio hynny ymhellach. Ar y llaw arall, yn gynharach yn y broses, faint o arian a wariwyd ar brofi, a'r ffocws ar Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud y profi hwnnw—byddwn yn cwestiynu a oedd hynny'n dangos gwerth da am arian. Gwelsom lawer llai o brofi nag yn Lloegr, ac rwy'n credu ein bod wedi gwario llawer mwy o arian hefyd, heb fawr o effaith, neu heb yr effaith y byddem wedi'i hoffi o ran profi, oherwydd roeddem yn ceisio cynhyrchu hynny i gyd yn fewnol, o fewn y sector cyhoeddus, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn hytrach na mynd at y sector preifat a'r sector prifysgolion yn gynharach.

Yn olaf, hoffwn nodi bod yna rai newidiadau o ran cyfraddau treth incwm Cymru a threth trafodiadau tir, ond rwy'n amau a yw'r rheini'n ddigonol, o ystyried maint y cyfyngiadau symud a'u parhad yng Nghymru, ac yn arbennig ar ochr y dreth trafodiadau tir. Soniais yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, er bod rhai pobl yn dweud bod y farchnad dai yn ailagor yng Nghymru chwe wythnos ar ôl Lloegr, mewn perthynas â dangos tai o leiaf, mae hynny'n dal i olygu eiddo gwag yn unig. A yw'r Gweinidog wedi ystyried hyd yn oed yn awr pa leihad pellach y gallem eu gweld yn y dreth trafodiadau tir ac yng nghyfraddau treth incwm Cymru oherwydd yr hyn rydym yn ei wneud? Ac yn y pen draw, fel y dywedodd Nick Ramsay ar ddiwedd ei araith, sut rydym yn mynd i dalu amdano wedyn? Mae'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi datganoli pŵer, nid yn unig i dorri 10 y cant oddi ar y dreth incwm, ond i'w chodi heb unrhyw gyfyngiad o gwbl, ac rwy'n poeni nad ydym yn cysylltu goblygiadau ein penderfyniadau â'r hyn fydd y canlyniadau ariannol yn nes ymlaen. Diolch.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:51, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gyfrannu fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Ac fel pwyllgorau eraill, ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymchwiliad i effaith COVID-19 ar ein meysydd cyfrifoldeb. Ac mae'n amlwg fod ymateb yn rhoi pwysau ariannol sylweddol ar y sefydliadau sy'n gweithredu yn y meysydd o fewn ein cylch gwaith, a gallu'r sefydliadau hynny i ymateb yn y ffordd fwyaf effeithiol i'r heriau parhaus.  

Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn y rheng flaen wrth ymateb i'r argyfwng hwn ac mae wedi dod ar adeg pan yw'r gwasanaethau hanfodol hynny y maent yn eu darparu eisoes o dan bwysau ariannol sylweddol a chyfyngiadau cyllidebol. Sylwaf fod y gyllideb atodol hon wedi sicrhau bod £180 miliwn o arian caledi ar gael i awdurdodau lleol, gan gynnwys £78 miliwn ar gyfer colledion incwm oherwydd yr argyfwng hwn. Ac mae'r awdurdodau lleol wedi cael mynediad cynnar at eu taliadau setliad mis Mai a mis Mehefin i'w helpu gyda'u hymateb, ac mae'r camau cychwynnol hynny i'w croesawu'n fawr. Fodd bynnag, bydd yn hanfodol sicrhau bod ein cynghorau'n parhau i gael cymorth o'r fath dros y misoedd nesaf, a blynyddoedd yn wir, er mwyn cynnal gwasanaethau presennol ac ailddechrau'r rheini sydd ar stop ar hyn o bryd. Yn wir, fel y pwysleisiodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wrthym yn y pwyllgor, yr effaith ariannol hirdymor sy'n peri pryder, felly bydd yn hollbwysig sicrhau bod setliadau ariannol yn y dyfodol yn deg ac yn cydnabod yr effaith hon.

Gan symud ymlaen at faterion eraill, mae'r achosion cynyddol o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng nghyfnod COVID-19 yn peri cryn dipyn o bryder i'n pwyllgor. Roedd y dystiolaeth gan Cymorth i Fenywod Cymru yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw sicrhau bod cyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth yn cyrraedd y rheng flaen. Sylwaf fod y gyllideb atodol yn cynnwys £200,000 o arian cyfalaf ar gyfer y grant i ddarparwyr llochesi, ac mae hynny i'w groesawu, ond hoffwn bwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod arian yn cyrraedd gwasanaethau cymorth rheng flaen. Mae'n hanfodol fod digon o arian yn cyrraedd y rheng flaen er mwyn galluogi darparwyr i'w ddefnyddio yn y ffordd orau i newid a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Ydy, mae cyllid cyfalaf yn bwysig, ond nid yw'n helpu i fynd i'r afael â phroblemau incwm a gollir neu gost defnyddio staff asiantaeth i lenwi pan fo staff parhaol yn absennol.

Dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru wrthym fod canlyniadau arolwg a gynhaliwyd yn dangos bod 90 y cant o wasanaethau yn wynebu costau uwch o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig, yn cynnwys costau cyfarpar diogelu personol a phrinder staff. Felly, mae'n hanfodol fod cymorth ariannol ar gael ar gyfer y rhain, yn ogystal â chyllid cyfalaf. Mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi galw am arian wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau arbenigol sydd o leiaf yr un faint â'r cyllid sy'n cael ei fuddsoddi mewn mannau eraill yn y DU. Hoffai weld cynllun clir i sicrhau arian yn lle'r cyllid sydd wedi ei ailgyfeirio tuag at liniaru effaith COVID-19 a chyllid y gellir ei ddefnyddio'n hyblyg ar gyfer costau refeniw a chymorth. Cefnogwn y galwadau hyn, a hoffwn ofyn i'r Gweinidog ystyried sicrhau bod cyllid o'r fath ar gael fel mater o flaenoriaeth. Diolch yn fawr.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Roeddwn i'n ceisio darganfod ble roedd y botwm i agor y meic ar y sgrin. A gaf fi ddweud, cyn i mi ddechrau rhoi sylw i'r gyllideb atodol gyntaf, hoffwn wneud dau bwynt byr iawn, ond rwy'n credu eu bod yn bwysig iawn? Yn gyntaf, credaf mai pennu cyllideb gychwynnol a chyllideb atodol yw'r pethau pwysicaf y mae'r Senedd yn eu gwneud gyda'i gilydd. Heb y penderfyniadau hyn, ni fyddai gan y Llywodraeth yr un geiniog i'w gwario. Ac eto, mae'r amser a neilltuir ar gyfer y gyllideb atodol yr un faint ag a roddir i ddadleuon y gwrthbleidiau, a bydd yr amser siarad yr un fath. Wrth inni weld y Senedd yn aeddfedu, does bosibl nad yw proses y gyllideb yn deilwng o ddadl brynhawn ac o leiaf 10 munud ar gyfer areithiau.

Yr ail bwynt cyflym yw hwn: darperir y cyllid canlyniadol o gynnydd mewn gwariant yn Lloegr mewn meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru. Er nad y Cyfarfod Llawn yw'r lle cywir i adrodd ar hyn yn fanwl, credaf y dylai adroddiad ar bob cynnydd canlyniadol mewn cyllid, gan gynnwys y cyfrifiadau y maent yn seiliedig arnynt, gael ei ddarparu'n ysgrifenedig i'r Pwyllgor Cyllid.

Rwy'n credu—ac rwyf wedi ysgrifennu hyn o'r blaen—fod y Trysorlys, yn rhy aml, yn ein trin fel adran wario arall yn San Steffan, yn hytrach nag fel Llywodraeth ddatganoledig, sy'n fy arwain at dri argymhelliad cyntaf y Pwyllgor Cyllid, sy'n argymell

'bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro ac archwilio a yw cyllid canlyniadol a geir drwy fformiwla Barnett yn adlewyrchu anghenion Cymru'.

'Os na fydd cyllid canlyniadol yn adlewyrchu anghenion Cymru yn ddigonol yn sgil COVID-19, mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau gyda Llywodraeth y DU opsiynau ariannu eraill ar frys.'

Ac rwy'n gwybod bod Llyr Grufydd wedi manylu ar hynny'n gynharach, felly nid wyf am ei ailadrodd. Ac mae'r pwyllgor yn argymell:

'bod Llywodraeth Cymru yn mynnu bod Llywodraeth y DU yn rhoi cymaint o wybodaeth... â phosibl, am unrhyw gyhoeddiad gan Lywodraeth y DU sy’n effeithio ar Gymru, ei thrigolion a/neu’r busnesau sy’n gweithredu yma.'

Nid wyf yn mynd i barhau dadl rwyf wedi'i chael gyda'r Gweinidog dros gryn dipyn o amser, ynglŷn ag a ydym yn cael digon o arian o'r newidiadau cyllid a wnaethpwyd wrth dalu dyledion byrddau iechyd yn Lloegr a'r Llywodraeth yn San Steffan yn dangos rhywfaint o ddiddordeb ariannol yn y cwmnïau cysylltiedig, pan oeddent yn gwmnïau cyhoeddus i ddechrau mewn gwirionedd. Nid wyf yn mynd i drafod hynny heddiw, dim ond ei gofnodi.

A gaf fi droi yn awr at brif ran y gyllideb atodol gyntaf? Fel y dywedodd y Gweinidog, mae hyn yn wahanol iawn i'r mân newidiadau a fu yn y blynyddoedd blaenorol, newidiadau rydym wedi arfer â hwy. Fel arfer, mae cyllidebau atodol yn ddigwyddiadau technegol, dyraniadau wedi'u rheoleiddio, maent yn symud rhywfaint o arian o gwmpas, yn rhoi arian ychwanegol i bobl sydd wedi llwyddo i ymbil mewn ffordd arbennig, ond dim ond symiau bach sy'n symud o gwmpas. Mae hyn yn wahanol iawn i hynny. Mae bron yn 15 y cant o'r gyllideb gyfan—14 y cant o'r gyllideb gyfan, rhywbeth fel hynny. Mae'n newid mawr.

Ac mae'r pandemig wedi—. Ceir lefelau digyffelyb o fuddsoddiad gan y Llywodraeth yn ei sgil. Mae llawer o arian wedi'i wario. Ac fel John Griffiths, rwy'n pryderu—a fydd llywodraeth leol yn cael ad-daliad llawn o'r arian y mae wedi'i wario er mwyn ein cael ni allan o'r llanast hwn? Ac a gaf fi ddweud, unwaith eto, er mwyn iddo gael ei gofnodi, rwy'n credu bod llywodraeth leol wedi bod yn wych? Gan anwybyddu rheolaeth wleidyddol y gwahanol gynghorau, mae'r cynghorau wedi ysgwyddo eu cyfrifoldeb. A byddem mewn sefyllfa lawer gwell pe bai un neu ddau o sefydliadau cenedlaethol wedi gwneud yr un fath.

Ar fanylion y gyllideb, mae gennyf bryderon difrifol am y gostyngiadau i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac i CNC, gan fod y ddau'n ymwneud â meysydd sy'n wynebu heriau sylweddol yn y tymor byr a chanolig. Er bod y ffrydiau gwaith a fyddai wedi'u cynnwys wedi diflannu, felly nid oes angen arian arnynt ar gyfer hynny, mae angen yr arian ar CCAUC, oherwydd mae addysg uwch yn bwysig iawn i'r economi. Soniwn am yr economi sylfaenol; sylfaen yr economi mewn nifer o leoedd—Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan, Abertawe, ymysg eraill—yw'r brifysgol. Heb y brifysgol, byddwch yn colli sylfaen yr economi honno. A chyda Cyfoeth Naturiol Cymru—. Rwy'n credu mai camgymeriad oedd CNC—rhoi'r cyfan at ei gilydd—ond mae ganddo broblemau ariannol, ac mae angen inni sicrhau ei fod yn cael ei ariannu'n ddelfrydol. Roeddem ni, fel Pwyllgor Cyllid, o'r farn nad oedd wedi'i ariannu cystal ag y gallai fod wedi cael ei ariannu yn y lle cyntaf. Nid oeddem ni, fel pwyllgor newid hinsawdd yn credu ei fod yn cael ei ariannu cystal ag y gellid bod wedi'i wneud, ac maent bellach wedi mynd â mwy o arian oddi wrtho. Ac mae gennyf bryderon difrifol ynglŷn â hynny.

O ran yr arian a ddyrannwyd, dywedaf eto ar gyfer y cofnod fy mod yn credu bod rhoi rhyddhad ardrethi i siopau sydd wedi bod ar agor—mae rhai ohonynt wedi bod yn gwerthu bwyd a diod ac wedi bod yn cael Nadolig bob wythnos—yn gamgymeriad sylfaenol yn fy marn i. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi dweud y byddai'n fwy cymhleth. Rwy'n meddwl y byddai holiadur syml: 'A ydych chi'n gwerthu bwyd a diod? A ydych chi'n agored?'—os mai'r ateb i'r ddau gwestiwn yw 'ydym', ni ddylent fod wedi cael rhyddhad ardrethi, oherwydd credaf fod hynny wedi rhoi arian i bobl nad oedd ei angen arnynt, a'r cyfan y mae wedi'i wneud yw bwydo eu helw net.

Nid yw'n hawdd rhagweld beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Rwy'n credu bod mwy o weithio gartref yn mynd i barhau—faint, nid wyf yn gwybod. Ac rwy'n credu—. Faint o bobl fydd yn parhau i siopa ar-lein—mae pobl wedi arfer â hynny nawr—a pha effaith a gâi hynny ar ganol dinasoedd? Rwy'n meddwl efallai fod angen i ni dreulio ychydig o amser yn meddwl am y dyfodol, ond gan sylweddoli na fyddwn yn gwybod hyd nes y bydd pethau'n digwydd.

Yn olaf, nid yw cynhesu byd-eang wedi diflannu, felly mae angen ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.

Ac yn olaf, os caf ddweud, byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe bai Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr yn cyflwyno cyllidebau amgen, ac yn cyflwyno cyllidebau atodol amgen, yn dweud ar beth y byddent yn gwario mwy ac ar beth y byddent yn gwario llai, yna gallwn gael dadl, yn hytrach na dweud, 'Wel, fe fyddwn yn ymatal ein pleidlais neu byddwn yn pleidleisio yn ei erbyn, ond nid ydym yn hollol siŵr beth nad ydym yn ei hoffi.' Cynhyrchwch eich cyllidebau eich hunain os gwelwch yn dda, neu eich newidiadau eich hunain. Rwy'n aml yn gwneud hynny, ac nid oes gennyf y fantais o gael plaid gyfan y tu ôl i mi. Diolch.

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:01, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ein bod i gyd yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi cael ei wneud gan y Gweinidog Cyllid a'i chyd-Aelodau ar yr adeg hynod amhosibl hon. Rwy'n credu y byddem i gyd yn cytuno bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym ac yn ystwyth i'r argyfwng wrth iddo ddatblygu dros y misoedd diwethaf, ac mae'r cyllid wedi'i ddarparu'n uniongyrchol i'r rheng flaen. Credaf ein bod i gyd yn cydnabod hynny yn y dyraniadau rydym yn eu trafod y prynhawn yma. Credaf y dylem hefyd gydnabod bod Llywodraeth y DU, at ei gilydd o leiaf, wedi gallu darparu cymorth ychwanegol i gynnal swyddi a chyflogaeth. Ac mae hyn oll i'w groesawu yn fy marn i.

Mae dau bwynt yr hoffwn eu gwneud yn y ddadl y prynhawn yma, Lywydd: yn gyntaf, ynglŷn â'r strwythurau cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, ac yn ail, y flaenoriaeth a roddir yn y flwyddyn ariannol hon gan Lywodraeth Cymru i'r galwadau cynyddol am y cyllid hwnnw.

Mae llawer o adroddiad y Pwyllgor Cyllid, a llawer o'r argymhellion hyn, fel sydd eisoes wedi cael ei ddisgrifio gan yr Aelodau yn y ddadl hon, yn disgrifio'r polisïau, y strwythurau a'r trefniadau cyllido sy'n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraethau'r Deyrnas Unedig. Roedd yn dda clywed y Gweinidog yn ei sylwadau agoriadol yn dweud ei bod yn derbyn yr argymhellion y mae'r pwyllgor wedi'u gwneud ar y materion hyn.

Mae'n amlwg i mi fod yr argyfwng hwn wedi profi'r trefniadau annigonol hyn i'r eithaf. Mae wedi bod yn wirionedd sylfaenol ers tro nad yw'r strwythurau ar gyfer dosbarthu cyllid ledled y Deyrnas Unedig yn gweithio'n deg i bawb. Ni fydd y fframwaith ariannol a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU yn gynharach yn y Senedd hon yn darparu sail gadarn i allu sicrhau tegwch ar draws gwahanol wledydd y DU, ac nid yw chwaith yn rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen ar Lywodraeth Cymru i ymateb i'r her sy'n ein hwynebu, ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn eisoes.

Felly, yn gryno, mae arnom angen setliad newydd, setliad sy'n seiliedig ar anghenion a chydraddoldeb. Mae arnom angen strwythurau ar lefel y DU a pholisïau ariannu ar lefel y DU a gytunir rhwng ein gwahanol Lywodraethau ac a gyflwynir yn annibynnol ar Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn chwaraewr yn y materion hyn; ni all weithredu fel canolwr hefyd. Felly, ar ôl derbyn yr argymhellion, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu sut y mae'n bwriadu bwrw ymlaen â'r materion hyn dros y flwyddyn sydd i ddod.

Fy ail bwynt, Lywydd, yw blaenoriaethau cymharol Llywodraeth Cymru yn darparu dyraniadau cyllid. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd dybryd sicrhau bod y GIG a gwasanaethau rheng flaen yn cael eu hariannu'n llawn i ymateb i argyfwng coronafeirws. Ond wrth inni symud ymlaen dros weddill y flwyddyn ariannol hon, bydd angen hefyd inni weld cryn dipyn yn fwy o fuddsoddi mewn cymorth economaidd. Rwyf am weld ffocws clir a manwl gan Lywodraeth Cymru ar swyddi. Nodwyd eisoes fod etholaethau fel fy un i ym Mlaenau Gwent mewn perygl difrifol yn sgil colli cyflogaeth wrth i ni weld effaith lawn y coronafeirws ar ein heconomi. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rhaid i ymateb Llywodraeth Cymru gynnwys sicrhau bod cronfeydd yn cael eu dyrannu i ddarparu gwasanaethau craidd, yn ogystal â buddsoddi i ddiogelu swyddi'r 7,000 o bobl sydd ar hyn o bryd ar ffyrlo ym Mlaenau Gwent. Rydym yn gwybod bod 300,000 o bobl ar ffyrlo ledled Cymru. Mae angen inni ddiogelu'r swyddi hyn ar gyfer y dyfodol. Yn fy etholaeth fy hun, Weinidog, rwy'n arbennig o awyddus i weld symud ar raglen y Cymoedd Technoleg. Lansiwyd y cynllun gennyf fi a Gweinidog yr economi bron i dair blynedd yn ôl. Mae'n amlwg nad yw'r cynnydd wedi bod hanner mor gyflym ag y dylai fod, ac a dweud y gwir, rwy'n credu bod y Llywodraeth yn cydnabod hynny. Mae angen inni weld y cynnydd hwnnw'n awr os ydym i wrthsefyll y pwysau ychwanegol a achosir gan yr argyfwng coronafeirws.

Rwy'n cydnabod yr hyn sydd wedi cael ei ddweud gan Aelodau eraill yn y ddadl hon ac rwy'n cydnabod y bydd gan bob un ohonom ein rhestr ein hunain o flaenoriaethau, ond i mi, rhaid mai'r strwythurau rydym yn gweithredu o'u mewn a dyrannu arian i ddiogelu swyddi yw'r blaenoriaethau allweddol i'r Llywodraeth hon am weddill y flwyddyn ariannol hon. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:05, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf yn awr ar y Gweinidog i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:06, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i bawb am eu cyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma. Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn rhan bwysig o broses y gyllideb, i ganiatáu i'r newidiadau sydd wedi'u gwneud gael eu hadrodd i'r Senedd a chael eu craffu ganddi.

Fel yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol ac fel y mae pob un o'r cyd-Aelodau wedi cydnabod rwy'n credu, nid yw hon yn debyg mewn unrhyw fodd i'r math mwy arferol o gyllideb atodol cymharol fach a welsom yn ddiweddar. I gefnogi economi Cymru a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi'u harfogi i ymdopi â'r pandemig coronafeirws, rydym wedi gweithredu'n gyflym yn y gyllideb atodol gyntaf hon i ddyrannu'r cyllid hwn, ynghyd ag addasu ein cyllidebau presennol at ddibenion gwahanol ac ailalinio arian Ewropeaidd, a dywedaf wrth gyd-Aelodau mai'r hyn a welwch yn y gyllideb atodol o ran ailddyrannu cyllid yw'r arian a nodwyd o fewn cyllidebau Gweinidogion ac a ddychwelwyd i gronfa wrth gefn COVID. Ochr yn ochr â hynny, fodd bynnag, fe welwch Weinidogion yn gwneud penderfyniadau o fewn y cyllidebau sydd ganddynt ar ôl sydd hefyd yn ymateb i'r argyfwng COVID, o ran yr ymateb aciwt uniongyrchol, ond gydag un lygad ar yr adferiad wedyn hefyd.

Felly, wrth edrych ymlaen at yr amser y byddwn yn cefnu ar y pandemig, gwyddom ein bod yn wynebu cyfnod o ddirwasgiad, ac mae hynny'n creu risgiau difrifol i'n cyllid cyhoeddus. Fel y gwyddoch, rwy'n gweithio gyda'r Cwnsler Cyffredinol, sydd wedi cael y cyfrifoldeb o oruchwylio cydlyniad y gwaith yn Llywodraeth Cymru i ymateb i argyfwng COVID-19, ac rydym yn defnyddio arbenigedd a phrofiad o'r tu allan i'r Llywodraeth i sicrhau bod y paratoadau ar gyfer yr adferiad yn y dyfodol yn greadigol ac yn gynhwysfawr.

Bydd y dewisiadau a'r cyfleoedd a gawn wrth symud o'r cyfyngiadau i'r adferiad yn dibynnu i raddau helaeth ar y dewisiadau ariannol a wnawn yn awr a'n gallu i gael mwy o arian i'r rheng flaen, a gyfyngir ar hyn o bryd gan y rheolau ariannol caeth a orfodir ar Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, ac mae hynny'n fy arwain at rai o'r cyfraniadau a wnaed yn y ddadl.

O ran fformiwla Barnett, yn amlwg nid yw'n seiliedig ar angen, er bod elfen o angen, sy'n rhoi'r 5 y cant ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Ond yn fy nghyfarfod cyntaf â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ddechrau'r argyfwng, pwysleisiais y dylid cael elfen o gyllid sy'n seiliedig ar anghenion ar ben hynny, yng nghyswllt yr heriau penodol sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Un enghraifft a roddais oedd ein poblogaeth hŷn, a'n dibyniaeth fwy ar y sector gweithgynhyrchu. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennym sector twristiaeth mwy o faint yma yng Nghymru a chyfran uwch o fusnesau bach. Felly, mae goblygiadau i'r holl ffactorau gwahanol yn hynny o beth.  

Cyn i'r argyfwng ddechrau, byddwch wedi fy nghlywed yn sôn am y gwaith rydym yn ei wneud i geisio sicrhau hynny a bwrw ymlaen â'r adolygiad o'r polisi datganiad cyllid, ac mae hynny'n cysylltu â rhai o'r cysylltiadau rhynglywodraethol y soniwyd amdanynt yn y ddadl heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym broses apelio neu gymrodeddwr annibynnol lle gellir trafod pethau y mae'r gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU yn anghytuno yn eu cylch, ac ymhlith yr enghreifftiau y byddwn wedi hoffi eu cyflwyno i gymrodeddwr annibynnol, er enghraifft, fyddai effaith penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â phensiynau athrawon, a gafodd effaith ganlyniadol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a'r cyllid ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon wrth gwrs, nad ydym yn ei edliw o gwbl, ond byddem wedi dymuno gweld ein cyfran deg o'r arian hwnnw hefyd. Felly, dyna rai enghreifftiau o bethau y credaf y byddai proses apelio annibynnol yn ddefnyddiol i'w datrys.

Mae'r pwyllgor wedi argymell yn ddefnyddiol y dylai Llywodraeth y DU rannu gwybodaeth yn well, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac yn cymeradwyo'r argymhelliad hwnnw gan ei bod yn anodd iawn cynllunio cyllideb, yn enwedig mewn blwyddyn fel hon, pan nad oes gennych olwg lawn ar ba gyllid canlyniadol a allai ddod i chi yn ystod y flwyddyn honno, felly mae yna risg, onid oes, eich bod yn colli cyfleoedd o bosibl am nad ydych wedi eich argyhoeddi y byddwch yn gallu eu fforddio, neu eich bod yn bwrw ymlaen er gwaethaf y risg ac yn gwneud pethau y credwch eu bod yn hanfodol bwysig, ond wrth wneud hynny, nid ydych yn hyderus y cewch chi'r arian ar gyfer hynny.

Soniwyd ein bod ond wedi cynnwys yr £1.8 biliwn gan Lywodraeth y DU, a oedd yn y prif amcangyfrifon, ac mae'r rheswm dros hynny eto'n ymwneud â hyder, oherwydd byddwch yn cofio inni gael y sefyllfa honno ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan osododd Llywodraeth y DU swm canlyniadol negyddol o dan fformiwla Barnett, a olygai fod gostyngiad o £100 miliwn o gyfalaf a £100 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol. Felly, fel y nododd Julie James mewn cwestiynau y prynhawn yma rwy'n credu, rhaid inni fod yn gwbl hyderus fod y cyllid hwnnw'n dod i ni, a dyna pam mai'r hyn a adlewyrchwyd yn y prif amcangyfrifon yn unig a welwch yn y gyllideb atodol.

Wedyn, os caf roi sylwadau byr iawn, Lywydd, ar bwysigrwydd sicrwydd wrth wneud penderfyniadau, oherwydd rydym yn gweithio mewn sefyllfa lle mae'n rhaid gwneud penderfyniadau'n gyflym, ond ar yr un pryd mae'n rhaid inni gynnal mesurau diogelwch hanfodol wrth ofalu am arian cyhoeddus yn briodol. Mae'r argyfwng presennol yn golygu bod angen inni gynyddu ein parodrwydd i dderbyn risg yn ddetholus, ac er ein bod yn anelu at fod mor hyblyg a chyflym ac ymatebol ag y gallwn, mae'n rhaid inni ddal i fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau i ddiogelu pwrs y wlad. Mae'r dyraniadau cyllid o gronfa wrth gefn COVID i gyd wedi'u hystyried yng nghyd-destun parodrwydd i dderbyn risg, risgiau allweddol a chamau lliniaru, a chânt eu cymeradwyo pan gaf sicrwydd fod y risgiau wedi cael eu hystyried yn rhesymol, a lle bo angen, pan fydd trefniadau priodol wedi'u rhoi ar waith i reoli'r risgiau hynny.

Roeddwn am gyfeirio'n fyr iawn at drethiant. Cyfeiriwyd at gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y ddadl ac wrth gwrs, mae refeniw 2020-21 o gyfraddau treth incwm Cymru a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc yn sefydlog at ddibenion cyllidebol, ac mae hynny'n golygu y bydd angen i unrhyw daliad cysoni a allai fod yn ofynnol ar ôl i'r wybodaeth alldro ddod ar gael yn haf 2022 gael ei chymhwyso i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Felly, bydd hwn yn faes diddordeb parhaus, rwy'n credu, i Weinidogion cyllid am y blynyddoedd i ddod. A bydd yr argyfwng COVID hefyd yn effeithio ar y trethi sydd wedi'u datganoli'n llawn, sef y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Er hynny, disgwylir i ostyngiadau yn 2021 gael eu lliniaru'n bennaf gan ostyngiadau yn yr addasiadau i'r grant bloc, a fydd yn cael eu diwygio gan ddefnyddio rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a gyhoeddir ochr yn ochr â chyllideb yr hydref Llywodraeth y DU eleni, oherwydd mae'r ffordd y mae'r system yn gweithio yn golygu, wrth gwrs, ein bod yn cael ein diogelu i ryw raddau gan yr ysgytiadau i'r economi ar draws y DU.

Felly, i gloi, Lywydd, mae'r gyllideb atodol yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cefnogi'r amrywiaeth o ymyriadau i ymateb i effaith yr argyfwng a'i liniaru, ac roedd llawer o'r cyfraniadau y prynhawn yma yn edrych i raddau helaeth ar yr adferiad, felly mae'n amlwg nad dyma yw diwedd y stori o bell ffordd a bydd angen inni barhau i fonitro'n ofalus ac asesu sut y mae'r sefyllfa'n datblygu yng Nghymru. Ac fel y dywedais, byddaf yn dod ag ail gyllideb atodol gerbron y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl ar 15 Gorffennaf pan fyddwn yn gallu archwilio blaenoriaethau a syniadau ar gyfer yr adferiad ac ar gyfer symud ymlaen. Ac felly, i gloi, Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:14, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Y cwestiwn, felly, yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Rwy'n gweld gwrthwynebiad ac felly gohiriaf y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.