6. Dad ar y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2020-21

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:06, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i bawb am eu cyfraniadau yn y ddadl y prynhawn yma. Mae'r gyllideb atodol gyntaf yn rhan bwysig o broses y gyllideb, i ganiatáu i'r newidiadau sydd wedi'u gwneud gael eu hadrodd i'r Senedd a chael eu craffu ganddi.

Fel yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol ac fel y mae pob un o'r cyd-Aelodau wedi cydnabod rwy'n credu, nid yw hon yn debyg mewn unrhyw fodd i'r math mwy arferol o gyllideb atodol cymharol fach a welsom yn ddiweddar. I gefnogi economi Cymru a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi'u harfogi i ymdopi â'r pandemig coronafeirws, rydym wedi gweithredu'n gyflym yn y gyllideb atodol gyntaf hon i ddyrannu'r cyllid hwn, ynghyd ag addasu ein cyllidebau presennol at ddibenion gwahanol ac ailalinio arian Ewropeaidd, a dywedaf wrth gyd-Aelodau mai'r hyn a welwch yn y gyllideb atodol o ran ailddyrannu cyllid yw'r arian a nodwyd o fewn cyllidebau Gweinidogion ac a ddychwelwyd i gronfa wrth gefn COVID. Ochr yn ochr â hynny, fodd bynnag, fe welwch Weinidogion yn gwneud penderfyniadau o fewn y cyllidebau sydd ganddynt ar ôl sydd hefyd yn ymateb i'r argyfwng COVID, o ran yr ymateb aciwt uniongyrchol, ond gydag un lygad ar yr adferiad wedyn hefyd.

Felly, wrth edrych ymlaen at yr amser y byddwn yn cefnu ar y pandemig, gwyddom ein bod yn wynebu cyfnod o ddirwasgiad, ac mae hynny'n creu risgiau difrifol i'n cyllid cyhoeddus. Fel y gwyddoch, rwy'n gweithio gyda'r Cwnsler Cyffredinol, sydd wedi cael y cyfrifoldeb o oruchwylio cydlyniad y gwaith yn Llywodraeth Cymru i ymateb i argyfwng COVID-19, ac rydym yn defnyddio arbenigedd a phrofiad o'r tu allan i'r Llywodraeth i sicrhau bod y paratoadau ar gyfer yr adferiad yn y dyfodol yn greadigol ac yn gynhwysfawr.

Bydd y dewisiadau a'r cyfleoedd a gawn wrth symud o'r cyfyngiadau i'r adferiad yn dibynnu i raddau helaeth ar y dewisiadau ariannol a wnawn yn awr a'n gallu i gael mwy o arian i'r rheng flaen, a gyfyngir ar hyn o bryd gan y rheolau ariannol caeth a orfodir ar Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU, ac mae hynny'n fy arwain at rai o'r cyfraniadau a wnaed yn y ddadl.

O ran fformiwla Barnett, yn amlwg nid yw'n seiliedig ar angen, er bod elfen o angen, sy'n rhoi'r 5 y cant ychwanegol i Lywodraeth Cymru. Ond yn fy nghyfarfod cyntaf â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar ddechrau'r argyfwng, pwysleisiais y dylid cael elfen o gyllid sy'n seiliedig ar anghenion ar ben hynny, yng nghyswllt yr heriau penodol sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Un enghraifft a roddais oedd ein poblogaeth hŷn, a'n dibyniaeth fwy ar y sector gweithgynhyrchu. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae gennym sector twristiaeth mwy o faint yma yng Nghymru a chyfran uwch o fusnesau bach. Felly, mae goblygiadau i'r holl ffactorau gwahanol yn hynny o beth.  

Cyn i'r argyfwng ddechrau, byddwch wedi fy nghlywed yn sôn am y gwaith rydym yn ei wneud i geisio sicrhau hynny a bwrw ymlaen â'r adolygiad o'r polisi datganiad cyllid, ac mae hynny'n cysylltu â rhai o'r cysylltiadau rhynglywodraethol y soniwyd amdanynt yn y ddadl heddiw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym broses apelio neu gymrodeddwr annibynnol lle gellir trafod pethau y mae'r gwledydd datganoledig a Llywodraeth y DU yn anghytuno yn eu cylch, ac ymhlith yr enghreifftiau y byddwn wedi hoffi eu cyflwyno i gymrodeddwr annibynnol, er enghraifft, fyddai effaith penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â phensiynau athrawon, a gafodd effaith ganlyniadol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, a'r cyllid ychwanegol ar gyfer Gogledd Iwerddon wrth gwrs, nad ydym yn ei edliw o gwbl, ond byddem wedi dymuno gweld ein cyfran deg o'r arian hwnnw hefyd. Felly, dyna rai enghreifftiau o bethau y credaf y byddai proses apelio annibynnol yn ddefnyddiol i'w datrys.

Mae'r pwyllgor wedi argymell yn ddefnyddiol y dylai Llywodraeth y DU rannu gwybodaeth yn well, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny ac yn cymeradwyo'r argymhelliad hwnnw gan ei bod yn anodd iawn cynllunio cyllideb, yn enwedig mewn blwyddyn fel hon, pan nad oes gennych olwg lawn ar ba gyllid canlyniadol a allai ddod i chi yn ystod y flwyddyn honno, felly mae yna risg, onid oes, eich bod yn colli cyfleoedd o bosibl am nad ydych wedi eich argyhoeddi y byddwch yn gallu eu fforddio, neu eich bod yn bwrw ymlaen er gwaethaf y risg ac yn gwneud pethau y credwch eu bod yn hanfodol bwysig, ond wrth wneud hynny, nid ydych yn hyderus y cewch chi'r arian ar gyfer hynny.

Soniwyd ein bod ond wedi cynnwys yr £1.8 biliwn gan Lywodraeth y DU, a oedd yn y prif amcangyfrifon, ac mae'r rheswm dros hynny eto'n ymwneud â hyder, oherwydd byddwch yn cofio inni gael y sefyllfa honno ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf pan osododd Llywodraeth y DU swm canlyniadol negyddol o dan fformiwla Barnett, a olygai fod gostyngiad o £100 miliwn o gyfalaf a £100 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol. Felly, fel y nododd Julie James mewn cwestiynau y prynhawn yma rwy'n credu, rhaid inni fod yn gwbl hyderus fod y cyllid hwnnw'n dod i ni, a dyna pam mai'r hyn a adlewyrchwyd yn y prif amcangyfrifon yn unig a welwch yn y gyllideb atodol.

Wedyn, os caf roi sylwadau byr iawn, Lywydd, ar bwysigrwydd sicrwydd wrth wneud penderfyniadau, oherwydd rydym yn gweithio mewn sefyllfa lle mae'n rhaid gwneud penderfyniadau'n gyflym, ond ar yr un pryd mae'n rhaid inni gynnal mesurau diogelwch hanfodol wrth ofalu am arian cyhoeddus yn briodol. Mae'r argyfwng presennol yn golygu bod angen inni gynyddu ein parodrwydd i dderbyn risg yn ddetholus, ac er ein bod yn anelu at fod mor hyblyg a chyflym ac ymatebol ag y gallwn, mae'n rhaid inni ddal i fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau i ddiogelu pwrs y wlad. Mae'r dyraniadau cyllid o gronfa wrth gefn COVID i gyd wedi'u hystyried yng nghyd-destun parodrwydd i dderbyn risg, risgiau allweddol a chamau lliniaru, a chânt eu cymeradwyo pan gaf sicrwydd fod y risgiau wedi cael eu hystyried yn rhesymol, a lle bo angen, pan fydd trefniadau priodol wedi'u rhoi ar waith i reoli'r risgiau hynny.

Roeddwn am gyfeirio'n fyr iawn at drethiant. Cyfeiriwyd at gyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y ddadl ac wrth gwrs, mae refeniw 2020-21 o gyfraddau treth incwm Cymru a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc yn sefydlog at ddibenion cyllidebol, ac mae hynny'n golygu y bydd angen i unrhyw daliad cysoni a allai fod yn ofynnol ar ôl i'r wybodaeth alldro ddod ar gael yn haf 2022 gael ei chymhwyso i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Felly, bydd hwn yn faes diddordeb parhaus, rwy'n credu, i Weinidogion cyllid am y blynyddoedd i ddod. A bydd yr argyfwng COVID hefyd yn effeithio ar y trethi sydd wedi'u datganoli'n llawn, sef y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi. Er hynny, disgwylir i ostyngiadau yn 2021 gael eu lliniaru'n bennaf gan ostyngiadau yn yr addasiadau i'r grant bloc, a fydd yn cael eu diwygio gan ddefnyddio rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a gyhoeddir ochr yn ochr â chyllideb yr hydref Llywodraeth y DU eleni, oherwydd mae'r ffordd y mae'r system yn gweithio yn golygu, wrth gwrs, ein bod yn cael ein diogelu i ryw raddau gan yr ysgytiadau i'r economi ar draws y DU.

Felly, i gloi, Lywydd, mae'r gyllideb atodol yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cefnogi'r amrywiaeth o ymyriadau i ymateb i effaith yr argyfwng a'i liniaru, ac roedd llawer o'r cyfraniadau y prynhawn yma yn edrych i raddau helaeth ar yr adferiad, felly mae'n amlwg nad dyma yw diwedd y stori o bell ffordd a bydd angen inni barhau i fonitro'n ofalus ac asesu sut y mae'r sefyllfa'n datblygu yng Nghymru. Ac fel y dywedais, byddaf yn dod ag ail gyllideb atodol gerbron y Senedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y ddadl ar 15 Gorffennaf pan fyddwn yn gallu archwilio blaenoriaethau a syniadau ar gyfer yr adferiad ac ar gyfer symud ymlaen. Ac felly, i gloi, Lywydd, rwy'n gwneud y cynnig.