Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Dwi yn meddwl ei bod hi yn amserol iawn inni gael y drafodaeth yma cyn i'r Bil ddechrau ar ei daith drwy'r Senedd. Ac, yn sicr, mi fydd gennym ni faterion eraill y byddem ni hefyd eisiau edrych arnyn nhw wrth i'r cwricwlwm fynd yn ei flaen, gan gynnwys y materion roedd Darren Millar yn eu codi ynglŷn ag addysg yn ymwneud efo gwahanol grefyddau, a'r materion roedd Suzy yn sôn amdanyn nhw o ran sgiliau bywyd ac, yn sicr, materion yn ymwneud efo llesiant ac iechyd meddyliol ac emosiynol ein plant a pobl ifanc ni—i gyd yn feysydd pwysig iawn inni fod yn craffu arnyn nhw wrth inni symud yn ein blaenau.
Ond y prynhawn yma, wrth gwrs, roeddem ni yn canolbwyntio ar rai agweddau penodol. Wrth gwrs, mae'n rhaid gwneud y pwynt wrth gwrs fod hanes pobl ddu a phobl o liw yn rhan o hanes Cymru. Dwi'n eistedd fan hyn rŵan yn y Felinheli. Lawr y lôn, mae castell Penrhyn, ac mi oedd Leanne Wood a Delyth Jewell yn sôn am hyn—castell Penrhyn a gafodd ei adeiladu gan y teulu Pennant, a oedd wedi gwneud eu harian, wrth gwrs, allan o'r diwydiant siwgr, a oedd yn dibynnu ar gaethwasiaeth. Doeddwn i ddim yn gwybod yr hanes yna pan oeddwn i'n tyfu i fyny yn y Felinheli yn y 1950au a'r 1960au. Doedd yna neb yn siarad am hynny, am y cefndir hwnnw, ac roedd hynny yn ein hamddifadu ni i gyd, onid oedd, fel plant, o ddealltwriaeth o'r hanes o'n cwmpas ni, ond hefyd dealltwriaeth o hanes am rannau eraill o'r byd, lle roedd yna orthrwm wedi bod yn digwydd. A dim ond yn ddiweddar iawn mae'r ardal yma wedi dechrau siarad am hynny i gyd.
A pheidiwn â gadael i'r math yna o sefyllfa ddigwydd eto. Roeddwn i yn gwybod mwy am wragedd Harri'r VIII nag oeddwn i am hanes beth oedd yn digwydd efo'r teulu Pennant. Ac wrth gwrs mae yna arfer dda. Mae yna esiamplau gwych o athrawon sydd wedi bod yn cyflwyno y math o hanes y byddwn i wedi eisiau i mi ei gael, ac mae pethau wedi gwella ers y cyfnod pan oeddwn i yn yr ysgol. Ond does yna ddim cysondeb yn aml iawn, a dylen ni ddim gorfod dibynnu ar bocedi o esiampl dda.
Ac mae'n awduron ni a'n artistiaid ni hefyd wedi bod yn ein goleuo ni i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein hanes ni, a ninnau efallai ddim yn ymwybodol ohonyn nhw. A buaswn i'n eich cyfeirio chi gyd at waith Manon Steffan Ros am sefyllfa y teulu Pennant yng nghastell Penrhyn, a'r ddealltwriaeth ddofn mae hi wedi llwyddo i greu—ond dim ond yn 2018 roedd hi'n creu'r gwaith yna. Mae hwnna yn rhan bwysig iawn o'n dealltwriaeth ni wrth inni symud ymlaen.
Felly, jest yn sydyn ynglŷn ag ochr y Gymraeg a'r trochi, dwi yn derbyn bod y Gweinidog yn cytuno'n llwyr efo pwysigrwydd trochi ieithyddol, ac efallai mai canlyniadau cwbl anfwriadol sydd yn digwydd yn fan hyn efo'r ddeddfwriaeth. Dwi'n ddiolchgar iawn am eich cynnig chi inni fedru trafod ac i geisio ffurf o eiriad gobeithio fydd yn cyflawni'r hyn mae'r ddwy ohonon ni eisiau ei weld yn digwydd, sef gweld ein dinasyddion ni yn tyfu i fyny yn bobl ddwyieithog, a chyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Wedyn, diolch yn fawr iawn i chi am hynny.
Felly, mae'r Bil yn cychwyn ar ei daith yn go fuan. Mi gawn ni i gyd gyfrannu i'r gwaith pwysig yna rŵan o graffu. Mi gawn ni i gyd geisio gwneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth yma yn mynd i greu y newidiadau strwythurol sydd eu hangen. Dwi yn credu bod angen i rai materion fod yn orfodol ar wyneb y Bil, er mwyn creu y newidiadau strwythurol, er mwyn gwaredu hiliaeth, er enghraifft, o'n cymdeithas ni. Dwi'n credu ei fod o yn rhy benagored fel mae o ar hyn o bryd, ond mi gawn ni'r drafodaeth yna wrth symud ymlaen. Ac mae yna rai pethau yn barod mae'r Gweinidog yn ei weld yn ddigon pwysig i fod ar flaen y Bil, yn ymwneud efo addysg rhyw ac addysg perthnasoedd iach, a dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo hynny. Fy nadl i ydy mae angen i faterion eraill o bwysigrwydd mawr gael eu gosod mewn statud hefyd, er mwyn cael cysondeb ar draws Cymru.