Mercher, 1 Gorffennaf 2020
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 11:00 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr...
Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y bore yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones.
1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru'r adnoddau i ymdrin â phandemig yn y dyfodol? OQ55394
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector hedfan yng Nghymru? OQ55393
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
3. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith argyfwng y coronafeirws ar economi Cymru? OQ55357
4. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio prosiectau seilwaith i adfywio economi Cymru yn sgil COVID-19? OQ55369
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt? OQ55386
6. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith y cyfyngiadau symud ar gyrhaeddiad addysgol yng Ngogledd Cymru? OQ55364
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y swyddog cyfreithiol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.
1. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar effaith yr argyfwng Covid-19 ar hawliau dynol yng Nghymru? OQ55380
2. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â gwella mynediad plant at gymorth iechyd meddwl yng Nghymru? OQ55373
3. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch strwythurau rhynglywodraethol o fewn y DU? OQ55360
4. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddarparu ar effaith y rheoliadau Covid-19 ar allu Llywodraeth Cymru i gylfawni ei pholisiau? OQ55383
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch a yw ei hymateb i Covid-19 yn unol â deddfwriaeth hawliau dynol? OQ55372
6. Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael yn ddiweddar gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch y camau cyfreithiol sy'n cael eu cymryd gan y menywod yn erbyn anghydraddoldeb...
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am weithredu argymhellion Comisiwn Thomas ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ55377
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Caroline Jones.
1. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar ei pholisi trethu lleol? OQ55374
2. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu'r £78 miliwn a glustnodwyd fel rhan o'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol o fewn y gyllideb er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli incwm a gollwyd o...
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
3. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod goblygiadau iechyd meddwl y pandemig COVID-19 yn cael eu cydnabod yn nyraniadau cyllideb Llywodraeth Cymru? OQ55385
4. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gefnogi y darn olrhain o’r strategaeth profi olrhain diogelu? OQ55375
5. A wnaiff y Gweinidog nodi'r cyllid ychwanegol a ddisgwylir o ganlyniad i wariant gan Lywodraeth y DU yn Lloegr mewn meysydd a ddatganolwyd i Gymru? OQ55346
6. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cylch cyllideb presennol i gefnogi'r sector gofal cymdeithasol? OQ55370
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith Covid-19 ar gyllidebau Cymru yn y dyfodol? OQ55355
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu grantiau rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector di-elw yn ystod pandemig Covid-19? OQ55353
Prynhawn da, bawb. Croeso yn ôl ar ôl ein toriad, a dychwelwn at ein hagenda gydag eitem 5, sef cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae cwestiwn 1 y prynhawn...
1. A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyhoeddiadau Cymraeg lleol yn ystod y pandemig? OQ55349
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OQ55352
Diolch. Trown yn awr at lefarwyr y pleidiau i holi'r Gweinidog. Y cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ55351
4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effeithiolrwydd darlledu yng Nghymru yn ystod pandemig Covid-19? OQ55367
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ailgyflwyno chwaraeon awyr agored ar gyfer plant a phobl ifanc yn dilyn Covid-19? OQ55366
6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda busnesau Cymru ynghylch cysylltiadau masnach y DU yn y dyfodol? OQ55381
7. Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o effaith Bil y cwricwlwm arfaethiedig ar y Gymraeg? OQ55382
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y Llywydd yn ateb pob cwestiwn y prynhawn yma. Cwestiwn 1, Helen Mary Jones.
1. Pa baratoadau y mae'r Comisiwn wedi eu rhoi ar waith o ran ymestyn masnachfraint etholiadau'r Senedd, er gwaethaf y pandemig coronafeirws? OQ55359
2. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o effaith y gwaharddiadau symud ar arferion gwaith yn y dyfodol ar gyfer Aelodau'r Senedd a staff y Comisiwn? OQ55356
3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y trefniadau i gefnogi busnes y Senedd wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio? OQ55376
4. A wnaiff y Comisiwn roi arweiniad i Aelodau ar ailagor swyddfeydd etholaethol yn ddiogel? OQ55371
5. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei allu i ailagor ystâd Senedd Cymru? OQ55378
Eitem 7 yw'r cwestiwn amserol, a Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru sydd i'w ateb. Jack Sargeant.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus? TQ465
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig am yr argyfwng hinsawdd, a galwaf ar y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Eitem 9 ar ein hagenda yw'r ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, a...
Eitem 10 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar economi, seilwaith a sgiliau Cymru, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gynnig y...
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4 ac 8 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 5, 6 a 7 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 2, caiff...
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y broses ddethol ar gyfer y panel arbenigol a fydd yn ystyried y cais i gael gwared ar y mwd sy'n cael ei garthu o'r tu allan i adweithydd niwclear Hinkley...
Pa agweddau ar gysylltiadau rhyngwladol Cymru a allai gael eu cryfhau o ganlyniad i'r profiad o Covid-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailddechrau chwaraeon hamdden yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi trethu Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng ngoleuni pandemig Covid-19?
Pa ystyriaeth sydd wedi'i rhoi i gynyddu cymorth digidol i ganiatáu i staff y Comisiwn ehangu eu gallu i weithio gartref a gweithio o bell?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia