Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch, Llywydd, ac ydw, rwy'n cynnig y gwelliannau. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron? Mae'n bwnc mawr ac rwy'n gwerthfawrogi eu bod eisiau canolbwyntio ar un neu ddau o agweddau heddiw. Felly, rhestr gyflym fydd hon o rai o'r materion a godwyd gan y cynnig a'r gwelliannau. Ond rwy'n credu y gallwn ni nodi'r pethau sylfaenol wrth gefnogi pwyntiau 1 a 3, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei dderbyn.
Y cyfan y mae ein gwelliant cyntaf yn ei wneud mewn gwirionedd yw gofyn i'r Aelodau ystyried terfynau yr hyn y gallai 'anghyfiawnderau strwythurol' ei olygu. Cyfeiriodd Delyth Jewell at hyn mewn erthygl dros y penwythnos, ac efallai y byddwn yn canfod ein bod yn rhannu ei dadansoddiad—wn i ddim eto. Ond hoffwn i ni, hyd yn oed nawr, ddechrau meddwl am siarad y tu hwnt i'n perthynas â'r wladwriaeth, os mynnwch chi: gwrthsefyll y bwli; rhoi eich hun yn esgidiau pobl eraill; a dod yn fwy llythrennog yn emosiynol ac yn empathetig. Mae'r rhain o bwys mewn ffyrdd bach iawn—y pethau bychain—mewn rhyngweithio dynol bob dydd, yn rhan o'r glud cymdeithasol sy'n araf ddadlynu mewn cyfres gynyddol ddigidol o gydberthnasoedd yn ein bywydau, ac amgylchedd lle mae pobl yn ofni canlyniadau mynegi safbwyntiau gwahanol. Mae'r rhain yn fy nharo fel ysgogiadau cymdeithasol newydd, felly nid wyf yn siŵr a yw 'strwythurol' yn cyfleu hynny i gyd, oherwydd, fel chithau, rwyf innau eisiau gweld cenedlaethau o bobl ifanc yn meddwl am hyn ac yn ystyried ac efallai yn derbyn cyfrifoldeb i fod yn rhagweithiol ynghylch tegwch mewn gwahanol ffyrdd mewn bywyd bob dydd, ac nid dim ond y prif faterion neu drwy rym gwleidyddol.
Fe wnaethom gyflwyno ein gwelliant 4 fel y mae'r pwynt 4 gwreiddiol yn nodi fel pe byddai'r ddau hanes hyn—hanes Cymru a hanes pobl dduon a phobl o liw—yn annibynnol ar ei gilydd, a gwn nad dyna oedd y bwriad. Mae Plaid Cymru yn gwybod ein bod yn cytuno â'r ddau bwynt hyn. Ond mae'r cais hwn i roi cyd-destun yn fater pwysig iawn. Hynny yw, pa mor wirion yw hi y gallaf gael fy holi, yn gwbl ddifrifol, gan gyfaill ifanc, wrth weld bws deulawr yn Abertawe am y tro cyntaf, 'Ai dyna ble'r oedd y bobl dduon yn arfer eistedd?' Mae hyn yn Abertawe. Mae'r cwricwlwm hwn i fod i helpu i fagu ein plant fel meddylwyr beirniadol, datryswyr problemau, ac i ddeall nad oes byth un safbwynt ar unrhyw beth. Fel y trydarodd David Melding—gan sianelu ei 1066 and All That—:
Roedd Syr Thomas Picton yn ddyn drwg ac yn gadfridog penigamp.
Mae cymaint i'w ddeall yn yr un frawddeg honno, ond mae angen i chi archwilio cyd-destun i hyd yn oed ddechrau gwneud hynny, a dyna pam na ellir dysgu hanes Cymru ar wahân i hanes yr ynysoedd hyn yn arbennig, ond y byd yn fwy eang, na heb ddeall bod yr hyn a welwn ni neu'r hyn yr ydym ni'n credu a welwn ni yn ein straeon yn digwydd oherwydd yr hyn a ddigwyddodd o'r blaen neu'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.
Nawr, rwyf wedi cynnwys addysgu sgiliau achub bywyd yn y fan yma yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, yn rhannol oherwydd bod y syniad wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad diwethaf, gan gynnwys gan y Gweinidog pan oedd hi yn yr wrthblaid, ac ar gyfer fy nghynigion deddfwriaethol, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd/Cynulliad hwn, ond yn bennaf oherwydd bod sgiliau achub bywyd wedi cyrraedd brig arolwg ein Senedd Ieuenctid ni ein hunain o sgiliau bywyd, a rheoli straen yn ail. Felly, hwn yw eu blaenoriaeth o ran sgiliau bywyd.
O ran gwelliant 5, rydym ni'n troedio'n ofalus yn y fan yma gan nad ydym ni wedi gweld y Bil hyd yn hyn ac nid ydym ni'n gwybod beth fydd yn ei ddweud am y pwynt a wnaeth Plaid Cymru. Ond mae Siân yn iawn—mae'n amlwg iawn y bydd ein plant yn agored i fwy o ddylanwadwyr o Loegr ac, os ydym ni o ddifrif am ddwyieithrwydd, mae'n rhaid i'r modd y caiff y Gymraeg ei haddysgu gydnabod a darparu ar gyfer hynny, ond mae ein hieithoedd yn gydradd o dan y gyfraith ac mae'r Bil yn ddarn o gyfraith.
Rydym ni'n cefnogi gwelliant 5 a gwelliant 6, sy'n cyd-fynd mor dda â'n polisi tairieithog hirsefydlog ein hunain ar gyfer Cymru.
Mae'n anodd anghytuno â gwelliant 7 ond mae'n anodd ei gyflawni pan fo recriwtio athrawon yn destun pryder mawr.
Felly, yn olaf, at welliant 8, gwahoddodd y Ceidwadwyr Cymreig farn pob ysgol yng Nghymru ynghylch effaith y cyfyngiadau symud ar baratoadau ar gyfer y cwricwlwm, ac mae'r prif ganfyddiadau'n eithaf llwm: dywedodd ychydig o dan hanner yr ysgolion nad oedden nhw'n gwneud unrhyw waith datblygu o gwbl, ac roedd y gweddill yn gwneud dim ond ychydig. Dywedodd saith deg chwech y cant o athrawon wrthym fod y cyfnod hwn yn cael effaith negyddol ar eu paratoi, a'r holl waith a gynlluniwyd ar gyfer yr haf wedi'i ganslo, a, phan ofynnwyd y cwestiwn agored iddyn nhw, 'Pa gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei chynnig ar hyn o bryd i gefnogi eich gwaith datblygu cwricwlwm?', ymateb y mwyafrif, o bell ffordd, oedd, 'Gohirio ei weithredu'—nid ei gyflwyno ond ei weithredu. Mae cynlluniau arweinyddion i dreialu'r cwricwlwm hwn dros gyfnod o flwyddyn wedi'u chwalu ac maen nhw wedi mynd oherwydd COVID, ac mae athrawon eisiau'r cwricwlwm ac maen nhw eisiau ei wneud yn dda. Felly, maen nhw eisiau gwneud cyfiawnder â'ch polisi, yn y bôn, Gweinidog, ac felly, wrth wrando ar y ddadl hon heddiw, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n clywed yr alwad hon ac yn rhoi arwydd heddiw eich bod yn gwrando. Diolch.