Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Ac, fel y nodir ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau o'r grŵp, ac yn achos grŵp gwleidyddol sydd â swydd Weithredol, bydd gan yr enwebai yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau o'r grŵp hwnnw, yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydyn nhw'n perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostyn nhw eu hunain. Byddaf i'n cynnal y bleidlais drwy alw'r gofrestr.