Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:55 am ar 1 Gorffennaf 2020.
Prif Weinidog, diolch am yr ymateb i John Griffiths yn y fan yna. Yn amlwg, mae'n cynrychioli etholaeth yng Nghasnewydd, lle gallai ffordd liniaru'r M4 fod wedi bod yn ddarn o seilwaith mor fawr. Rwy'n credu y bydd y dewisiadau eraill yn hytrach na ffordd liniaru'r M4 yn cael eu cyflwyno i chi yn fuan, a dychmygaf eich bod chi eisoes wedi cael syniad bras o gost y dewisiadau amgen hynny. Beth yw ystod y costau bras hynny, a beth ydych chi wedi ei wneud i sicrhau unrhyw gymorth angenrheidiol gan y Trysorlys, ar ôl gwrthod y cymorth hwnnw pan wnaethoch chi gefnu, wrth gwrs, ar y cynllun ar gyfer ffordd liniaru'r M4?