Cyrhaeddiad Addysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 12:03 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 12:03, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Prif Weinidog, mae astudiaeth fawr o addysgu gartref yn ystod y cyfyngiadau symud gan Sefydliad Addysg Coleg Prifysgol Llundain wedi tynnu sylw at rai canfyddiadau sy'n peri gofid ynglŷn â sut y gallai addysg plant yng Nghymru fod yn dioddef. Maen nhw'n awgrymu, o dan eich goruchwyliaeth chi, bod plant yng Nghymru yn gwneud llai o waith ysgol ac yn cael llai o addysg ar-lein na'u cyfoedion ar draws gweddill y DU tra bod ysgolion wedi bod ar gau. A wnaiff eich Llywodraeth gomisiynu ymchwiliad i ystyried pam a sut y mae'n ymddangos bod plant yng Nghymru wedi cael eu siomi mor enbyd gan y rhai sydd yn gofalu am eu haddysg?