Cronfa Caledi Llywodraeth Leol

Part of 4. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 12:50 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 12:50, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch yn fawr i chi am yr ateb hwnnw, oherwydd rwy'n credu fy mod i'n iawn i ddweud, a siarad yn gyffredinol, bod cynghorau'n adhawlio eu gwariant sy'n gysylltiedig â COVID oddi wrthych chi'n fisol fel ôl-daliad. A wnewch chi ddweud a ydych chi wedi gwrthod talu am unrhyw wariant a gyflwynwyd ger eich bron, hyd yn oed gyda'r dystiolaeth? Ac a oes gennych unrhyw awgrym eto ynghylch pa fath o dystiolaeth y byddwch chi'n awyddus i'w chael gan gynghorau i gefnogi ceisiadau am incwm a gollwyd, gan fy mod yn cymryd nad rhagdybiaethau o flynyddoedd blaenorol fyddai hynny?