Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Rwy'n fodlon ailedrych ar hyn ac, wrth gwrs, byddaf yn ei drafod â Chwaraeon Cymru, sef ein prif gyfrwng ar gyfer ein perthynas â'r gwahanol gyrff llywodraethu. A gallaf ddweud ein bod eisoes wedi cefnogi ailagor—soniais am lawntiau tenis a bowlio—cyrtiau pêl-fasged, meysydd ymarfer golff, felodromau beicio, traciau athletau a rhwydi criced. Mae'r rhain i gyd bellach yn weithgareddau sydd wedi eu hailagor, ond byddaf yn sicr yn gofyn y cwestiwn a oes modd disgrifio mathau penodol o chwaraeon eraill, megis pêl-droed, fel rhai nad ydynt yn chwaraeon cyswllt. Rwy'n gallu gweld rhywfaint o anhawster, o wybod sut y mae fy ŵyr ifanc yn chwarae ei bêl-droed yn y Fro, ond rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Diolch.