Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy'n croesawu'r ateb yna'n fawr. Credaf fod busnesau twristiaeth yn troi at Lywodraeth Cymru am ryw fath o amserlen uchelgeisiol ynghylch pryd y gallan nhw ailagor eu drysau eto—gan weithredu, wrth gwrs, yn ôl canllawiau cadw pellter cymdeithasol. Er mwyn osgoi niwed annileadwy i economi'r canolbarth—ac rwy'n gwybod eich bod yn poeni am economi'r canolbarth fel finnau—beth ydych chi a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i hyrwyddo'r canolbarth fel cyrchfan i dwristiaid ar ôl cyfnod y COVID? A allwch chi ymrwymo i roi pecyn cymorth ariannol hirdymor ar waith ar gyfer y sector, sydd, wrth gwrs, yn parhau i ddioddef effeithiau andwyol, rhywbeth sy'n debygol o barhau am gryn amser eto?