Part of 5. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Wel, mae gennym ni flaenoriaeth i gynyddu cyfranogiad menywod ifanc yn enwedig mewn chwaraeon amrywiol. Rydym ni wedi cefnogi pêl-rwyd, rydym ni wedi cefnogi rygbi menywod, rydym ni wedi cefnogi pêl-droed menywod a byddaf yn sicr yn ystyried hynny yn genhadaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Diolch.