Busnes y Senedd

Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:10, 1 Gorffennaf 2020

Well, diolch am y sylwadau hynny a'r cwestiwn. Dwi'n cytuno gyda chi ein bod ni'n gorfod gweithio mewn ffyrdd gwahanol ar hyn o bryd, a dwi'n edrych arnoch chi i gyd ar y sgrin o'm mlaen i mewn gwahanol fannau yng Nghymru, ac rŷm ni'n llwyddo i wneud y gwaith dydd i ddydd yr ydym ni'n cael ein hethol i'w wneud. Ond, mae'r pwynt rŷch chi'n ei wneud ynghylch nid yn unig sut rŷn ni'n cynnal y gwaith yma drwy dechnoleg gwybodaeth yn enwedig a chwrdd yn rhithwir, ond beth yw cynnwys y gwaith rŷn ni'n ei wneud, beth yw'n hagenda ni a sut mae'r busnes hynny'n cael ei gyflawni, a'r ffurfiau hynny. A dwi'n credu bod hyn yn rhoi cyfle i ni, ar ôl inni ddal ein gwynt o fod yn ymateb i'r pandemig ar hyn o bryd, edrych yn greadigol ar nid yn unig sut rŷm ni'n gwneud ein busnes, ond beth yw'n busnes ni, ac felly ein bod ni yn rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hynny i gyd. Felly, dwi'n hapus i gymryd yr argymhelliad yna ac i ofyn nid yn unig i'r Pwyllgor Busnes ond i'r Comisiwn hefyd i edrych ar y gwersi pwysig sydd yn deillio allan o'r cyfnod yma, a sut gallwn ni feddwl am ein hagenda ni i'r dyfodol mewn ffordd sy'n adlewyrchu rhyw gymaint ar y profiadau rŷm ni wedi'u cael dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf yma.