Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Mae Comisiwn y Senedd wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i'r gwaith o sicrhau bod busnes y Senedd yn parhau a'i bod yn ddiogel i ddychwelyd i'r ystad wrth i gyfyngiadau gael eu llacio. Yng nghyfarfod diwethaf y Comisiwn, cafodd y Comisiynwyr eu diweddaru am y trefniadau oedd ar waith oherwydd pandemig COVID-19 ac am y paratoadau oedd ar y gweill i sicrhau y byddai'n ddiogel i ddychwelyd i'r ystad maes o law. Mae asesiad y Comisiwn o'r paratoadau hyn yn sail i benderfyniadau'r Pwyllgor Busnes am waith y Senedd.