Arferion Gwaith yn y Dyfodol

Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:06, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, Mandy Jones, a diolch hefyd am ddiolch am ymdrechion sylweddol staff y Comisiwn i wneud yn siŵr bod ein swyddogaeth fel Senedd wrth graffu ar waith y Llywodraeth a phasio deddfwriaeth wedi cael ei wneud yn effeithiol dros yr wythnosau diwethaf. Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan yr ymdrechion; mae cymaint o'n staff wedi gallu cyflawni cymaint mewn amgylchiadau gweithio anodd—gweithio o gartref, fel y buom ni yn ei wneud—sicrhau bod gwaith ein Senedd yn parhau. Felly, rwy'n diolch yn bersonol iddyn nhw i gyd hefyd, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran pawb ohonom ni wrth rannu eich diolch, Mandy Jones, am hynny.

A do, buom yn gweithio gyda'r rhwystredigaethau o weithio o bell, ond rydym hefyd wedi gweld llawer o'r manteision o weithio o bell, o ran busnes y Senedd a hefyd yn y gwaith y mae ein staff yn gallu ei wneud o bell. Byddwn yn dysgu'r gwersi o hyn ac nid oes amheuaeth gennyf, fel llawer agwedd arall ar fywyd, bydd ein Senedd a'r Comisiwn yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol yn y blynyddoedd i ddod oherwydd profiadau'r cyfnod hwn o bandemig. A daw daioni o hyn o ran cynllunio ein bywydau gwaith yn y dyfodol.