Busnes y Senedd

Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:08, 1 Gorffennaf 2020

Fel y gwyddoch, gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes, bydd y Senedd yn treialu Cyfarfodydd Llawn hybrid ar 8 a 15 Gorffennaf. O dan y model yma, gall hyd at 20 o Aelodau gymryd rhan yn y Siambr, tra bydd gweddill yr Aelodau yn cymryd rhan o bell. Yn ogystal â datblygu technoleg a gweithdrefnau i ganiatáu i ni gynnal cyfarfodydd rhithwir a hybrid, mae staff Comisiwn y Senedd wedi datblygu system electronig o bleidleisio o bell, a bydd hyn yn caniatáu i'r Aelodau bleidleisio'n unigol o bell. Caiff hyn ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.