Ailagor Ystâd Senedd Cymru

Part of 6. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:15, 1 Gorffennaf 2020

Wrth gynllunio i ailagor yr ystâd, yn unol â'r camau i lacio rheolau'r cyfyngiadau symud, mae'r Comisiwn wedi cynnal asesiad risg cynhwysfawr, ac mae'n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i gyflogwyr er mwyn rhoi trefniadau diogelwch ar waith. Ar 29 Mehefin, cytunodd y Pwyllgor Busnes y bydd y Senedd yn treialu Cyfarfodydd Llawn hybrid ar 8 a 15 Gorffennaf. O dan y model hwn, sy'n cadw at y rheolau ar gyfer cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr, gall hyd at 20 o Aelodau gymryd rhan o'r Siambr, tra bod gweddill yr Aelodau yn cymryd rhan o bell.