Part of 7. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch. Gweinidog. A yw'r Gweinidog yna? Nid yw'n ymddangos bod y Gweinidog yn clywed hyn—. Felly, mae'n ymddangos ein bod yn cael cryn dipyn o broblemau gyda'r dechnoleg y prynhawn yma. Tybed a allem ni ohirio hyn a byddwn yn datrys pam nad yw'r Gweinidog yn gallu cyfathrebu â ni. Felly, pe gallem ni felly fynd ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sydd, unwaith eto, fel y gwelaf—. Tybed a oes nam. A gawn ni seibiant technegol pum munud dim ond er mwyn inni ddatrys hyn? Felly, fe gymerwn ni bum munud a byddwn yn ailymgynnull ymhen pum munud. A oes modd i chi aros fel y gall y tîm darlledu ddiffodd pawb ac yna fe wnawn ni ailymgynnull?