Part of 7. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 1 Gorffennaf 2020.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae newyddion neithiwr yn amlwg yn drychinebus i'r holl weithwyr yn Airbus ym Mrychdyn, eu teuluoedd, a'r cymunedau lleol sy'n amgylchynu'r gwaith. Drwy gydol y pandemig, rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda ni ar becyn cymorth ac i ddarparu trywydd clir i adferiad ar gyfer y sector awyrofod.