8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith COVID-19 ar Chwaraeon

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 8 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:01, 8 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gymeradwyo'r adroddiad hwn? Rwy'n credu ei fod yn ddarn da iawn o waith ac mae'n cyflwyno chwe argymhelliad cydlynol a chysylltiedig, ac rydym yn trafod hyn ar y diwrnod y mae gemau prawf criced yn dechrau eto. Nid wyf yn siŵr a fu yna chwarae'n bosibl yn Southampton heddiw, wrth i fis Gorffennaf barhau i esgus ei bod yn fis Hydref, ond mae gweld India'r Gorllewin eto—ac mae llawer o sylwebyddion yn credu mai dyma'r tîm gorau iddynt ei gael ers yr 1980au—yn codi'r galon. Mae llawer o bobl nad ydynt bellach yn chwarae criced, fel fi, yn dal i ddyheu am ei wylio. Felly, o ran ysbryd y cyhoedd, rwy'n credu bod chwaraeon elît yn bwysig iawn.

Mae gan ddau dîm Cymru yn y bencampwriaeth, Abertawe a Chaerdydd, obaith o gael lle yn y gemau ail-gyfle, yn enwedig Caerdydd, a hoffwn fynegi fy nymuniadau gorau. Roedd y canlyniad neithiwr ychydig yn siomedig, ond mae eu safon wedi codi'n ôl yn dda yn y gemau diwethaf ac maent wedi ennill pwyntiau gwerthfawr iawn. Felly, rwy'n dal i fod yn obeithiol iawn.

Rwy'n canmol y darlledwyr hefyd am roi cymaint o bêl-droed yr uwch gynghrair a'r bencampwriaeth ar deledu am ddim. Rwy'n wyliwr pêl-droed brwd. Mae gwylio'r gemau hyn y tu ôl i ddrysau caeedig yn brofiad rhyfedd, gwag, atseiniol ar hyn o bryd, ond mae'n llawer gwell na dim.

O ran rygbi ar y lefel elît, rwy'n poeni'n ddirfawr ei fod mewn llawer mwy o anhawster na phêl-droed hyd yn oed, ac mae pêl-droed, mae'n rhaid inni ddweud, ar lefel elît, yn eithaf llewyrchus rhwng yr uwch gynghrair a'r bencampwriaeth ac yna mae'r cynghreiriau is, nad ydynt yn cael incwm teledu yn wynebu llawer mwy o anhawster. Ond rwy'n credu bod rygbi proffesiynol yng Nghymru yn wynebu argyfwng. Bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein tîm cenedlaethol hefyd os nad ydym yn ofalus, ond yn sicr ar rygbi rhanbarthol, a'n gallu i ddenu digwyddiadau mawr a'r hyn rydym yn ei deimlo fel cenedl mewn gwirionedd. Felly, mae'n rhaid edrych yn ofalus iawn ar y pethau hyn, ac rwy'n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda'r awdurdodau proffesiynol i sicrhau bod cymaint o'n diwylliant rygbi ag sy'n bosibl yn goroesi.

Ond yn gwbl briodol, roedd ein prif ffocws ar le chwaraeon cymunedol i'r bobl, ac rwy'n credu bod y ffordd rydym wedi cysylltu pethau fel yr angen am weithgarwch corfforol, a'r angen i gysylltu chwaraeon ac iechyd y cyhoedd, yn allweddol iawn. Fel rydym newydd ei glywed gan Mick Antoniw, mae angen inni ganolbwyntio ein hadnoddau yn y cymunedau tlotaf, sy'n aml â'r nifer leiaf o fannau agored a chyfleusterau chwaraeon da. Felly, rwy'n gwybod bod cynghorau'n edrych ar hyn i sicrhau eu bod yn cael y cymorth mwyaf posibl wrth i bethau agor eto.

Rwy'n credu bod argymhelliad 2 yn bwysig iawn—y ffordd rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi chwaraeon a chlybiau cymunedol. Unwaith eto, dylid rhoi rhywfaint o flaenoriaeth, yn fy marn i, i'r rhai mwyaf anghenus yn y cymunedau mwy ymylol, oherwydd mae'r gwaith sy'n digwydd yno'n annog pobl o bob oed—. Mae chwaraeon ar gael i bawb eu chwarae; dyna ryfeddod y peth. Ond hefyd, i'n plant a'n pobl ifanc, mae cael cyfleoedd chwaraeon mor bwysig, ac nid yw'r cyfan wedi'i leoli yn yr ysgol; mae angen iddo fod wedi'i leoli yn y gymuned hefyd.

Felly, pleser mawr yw cael cymeradwyo'r adroddiad hwn, ac rydym yn ddiolchgar iawn, Ddirprwy Lywydd, fod amser wedi'i roi i drafod yr adroddiad hwn, fel a gafwyd yn ddiweddar i'n hadroddiad ar y sector celfyddydau. Mae'r rhain yn feysydd pwysig iawn, ond nid ydynt bob amser yn cael y sylw y maent ei angen o bosibl er budd iechyd ein bywyd cenedlaethol. Felly, unwaith eto, rwy'n cymeradwyo eich adroddiad. Diolch i'r Cadeirydd am ei harweiniad, ac i'n hysgrifenyddiaeth, a'n galluogodd i gyflawni'r gwaith ardderchog hwn.