Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 8 Gorffennaf 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hefyd am y cyfle i gyflwyno'r ddadl hon. Mae'r ddeiseb o'n blaenau yn cynnwys 5,790 o lofnodion. Fe'i cyflwynwyd gan Peter Black, cyn gyd-Aelod i lawer ohonom yma yn y Senedd, a chynghorydd etholedig ar hyn o bryd ar Gyngor Abertawe.
Mae'r ddeiseb hon yn codi pryderon am yr effaith y gall cau siopau manwerthu mawr ei chael ar hyfywedd canol trefi a dinasoedd. Mae'n gwneud hynny yng nghyd-destun yr heriau sy'n wynebu'r sector manwerthu o ganlyniad i'r coronafeirws. Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at siopau Debenhams yn unol â'r rôl ganolog sydd i'r siop honno yng nghanol dinas Abertawe. Mae'r un peth yn wir yma yn Llandudno—mae'n bendant yn siop angori i lawer o bobl yn ein prif ganolfan siopa. Fodd bynnag, y pwynt ehangach a wnaed gan y deisebwyr yw pwysigrwydd siopau angori mawr o'r fath yng nghanol llawer o drefi a dinasoedd ledled Cymru. Gallai'r effaith ganlyniadol o golli siop o'r fath, a'r gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid yn sgil hynny, fod yn ddinistriol i fusnesau eraill yn yr ardal.
Nawr, rwyf am bwysleisio, wrth gyflwyno'r ddeiseb hon, nad yw'r Pwyllgor Deisebau yn ceisio annog dadl fanwl ynghylch manteision cynnig cymorth ariannol i un cwmni penodol, nac am sefyllfa ariannol Debenhams ei hun. Yn hytrach, credaf y gall trafod y ddeiseb hon helpu i daflu goleuni ar ddau fater pwysig: (1) sut orau i flaenoriaethu'r cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau gan Lywodraeth Cymru i'r rhai sydd fwyaf o'i angen; a (2) pa fesurau y gellir eu cymryd i ddiogelu ein strydoedd mawr rhag effeithiau'r pandemig ofnadwy hwn. Serch hynny, mae angen nodi ychydig o gefndir y ddeiseb yn gryno.
Ym mis Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid becyn cymorth i fusnesau mewn ymateb i COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys 100 y cant o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer eiddo a ddefnyddir ar gyfer manwerthu, hamdden a lletygarwch, am flwyddyn yn unig. Wedi hynny, diwygiwyd y cynllun i eithrio eiddo â gwerth ardrethol o £500,000 a throsodd. Mae Llywodraeth Cymru yn datgan bod hyn yn effeithio ar lai na 200 eiddo yng Nghymru ac mae wedi ei galluogi i ailgyfeirio mwy na £100 miliwn i'w chronfa cadernid economaidd. Mae cwmnïau, gan gynnwys Debenhams, wedi honni y gallai'r penderfyniad hwn beryglu camau i ailagor siopau mawr yng Nghymru. Yn achos siopau Debenhams yn Abertawe a Chasnewydd, dwy siop a ddaeth i sylw'r pwyllgor, cytunwyd yn lleol i ohirio ardrethi busnes. Nododd y deisebydd nifer y swyddi a gynhyrchir gan safleoedd manwerthu mawr, o ran cyflogaeth uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i'r economi leol. Mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r cytundebau lleol ond yn berthnasol i ohiriadau, gyda'r arian yn dal i fod yn ddyledus yn y dyfodol.
Yn amlwg, mae llawer o fanwerthwyr wedi gallu ailagor eu drysau ers i gyfyngiadau ar werthu nwyddau dianghenraid gael eu llacio ar 22 Mehefin. Gobeithiwn y bydd hyn yn helpu i liniaru'r heriau a wynebir gan lawer o fanwerthwyr ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod yna adegau anodd iawn o'n blaenau, ac nid wyf yn gor-ddweud pan ddywedaf fod heriau dirfodol yn wynebu llawer o fusnesau bach a mawr. Mae llawer o'r heriau hyn yn rhai strwythurol ac yn rhagflaenu'r argyfwng presennol, ond maent yn sicr wedi'u gwaethygu gan y cyfyngiadau symud a oedd yn ofynnol i fynd i'r afael â'r clefyd. Gobeithio y bydd y ddadl hon yn ein helpu i drafod ymhellach sut y gall Llywodraeth Cymru ymateb i'r heriau hynny yn y ffordd orau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog heddiw am y camau sy'n cael eu cymryd i gefnogi manwerthwyr a busnesau eraill yng Nghymru. Diolch yn fawr.